Y cymoedd a’r cyfyngiadau oherwydd covid-19

Mae’r cyfyngiadau symud a gyflwynwyd o ganlyniad i’r pandemig COVID-19 wedi tarfu’n sylweddol ar fywydau personol a dyddiol pobl, ac maent wedi amlygu pwysigrwydd cysylltiadau â mannau gwyrdd, aelodau’r teulu a’r gymuned ehangach. Mae llawer o bobl mewn cymunedau ar draws rhanbarth y de wedi bod yn edrych ymlaen ers amser at yr adeg pan fyddai’r cyfyngiadau ar ein rhyddid yn cael eu llacio’n raddol.

Wrth i ni gael mwy o ryddid gan bwyll bach i symud o gwmpas, mae’r Canolfannau Darganfod ym Mharc Rhanbarthol y Cymoedd wedi dechrau croesawu pobl leol ac ymwelwyr i’w safleoedd a’u parciau gwledig. Er mwyn sicrhau diogelwch pobl leol, ymwelwyr a’r unigolion sy’n gweithio yn y Cymoedd, mae’r Canolfannau Darganfod yn eu hannog yn weithredol i roi’r canllawiau presennol ynghylch COVID-19 ar waith yn synhwyrol yn unol â’r cyngor ar gyfer yr ardal, a rhoi sylw i’r arwyddion a’r cyfarwyddiadau sydd ar y safle dan sylw.

Gofynnir i bobl sy’n mwynhau mannau gwyrdd a/neu gyfleusterau sicrhau bod o leiaf 2 fetr o bellter cymdeithasol rhyngddyn nhw a phobl eraill, oni bai eu bod yn byw yn yr un cartref neu’u bod wedi creu swigen gydag aelwyd arall; golchi a/neu ddiheintio eu dwylo’n aml; defnyddio eu braich i guddio eu ceg a’u trwyn wrth disian neu beswch; osgoi ysgwyd llaw neu gyffwrdd â’u hwyneb; a gwisgo masg mewn ardaloedd lle nad oes modd cadw pellter cymdeithasol yn effeithiol (er enghraifft, ar drafnidiaeth gyhoeddus). Mae pobl sydd wedi dychwelyd yn ddiweddar o ardal risg uchel neu sy’n profi gwres, peswch parhaus neu anallu i flasu neu arogleuo’n cael eu hannog i hunanynysu gartref.

Dyma ganllawiau diweddaraf Llywodraeth Cymru ynghylch COVID-19.

Er mwyn ymateb i’r cyfyngiadau sy’n cael eu llacio’n raddol ac er mwyn cynnal mesurau priodol i sicrhau iechyd a diogelwch, mae pob un o’r Canolfannau Darganfod yn agor i amryw raddau, yn dibynnu ar eu cyfleusterau a nifer y staff sydd ar gael. Dilynwch y ddolen gyswllt â gwefan pob Canolfan Ddarganfod, drwy’r tudalennau ar gyfer Canolfannau Darganfod unigol, i weld pryd y mae’r ganolfan ar agor ac i ba raddau. Rydym yn argymell eich bod yn gwirio’r manylion yn aml, oherwydd mae’n bosibl y bydd mwy neu lai o fynediad yn cael ei ddarparu ar fyr rybudd wrth i ymateb y Llywodraeth i’r pandemig newid. Mae rhagor o wybodaeth i’w gweld hefyd ar sianelau Parc Rhanbarthol y Cymoedd ar gyfryngau cymdeithasol @lovethevalleys ac ar sianelau pob un o’r Canolfannau Darganfod unigol.

Cadwch yn ddiogel i gyd!

Newyddion a straeon diweddaraf
Skip to content