Canolfannau darganfod

Parc Ynysangharad a’r Lido Cenedlaethol

Mae Parc Ynysangharad a’r Lido Cenedlaethol yn atyniad hanesyddol i’r teulu, ac mae’n gartref i brif bwll awyr agored Cymru a pharc chwarae antur ac iddo nodweddion diwydiannol – yr unig un o’i fath yng Nghymru.

Mae’r lido rhestredig Gradd II wedi’i adfer a’i ddiweddaru fel ei fod yn addas i ymwelwyr heddiw. Mae ganddo gawodydd y tu allan a’r tu mewn, cyfleusterau newid wedi’u gwresogi a thri phwll nofio wedi’u gwresogi, ar gyfer teuluoedd, nofwyr selog a nofwyr cymdeithasol o bob oed a gallu.

Mae Lido Ponty yn cynnwys Canolfan Ymwelwyr heb ei hail sy’n adrodd stori ryfeddol Lido Cenedlaethol Cymru. Ymhlith y nodweddion sydd wedi’u hadfer y mae’r ciwbiclau pren a’r giatiau tro o’r 1920au sy’n cyd-fynd â’r caffi newydd, sef The Waterside.

Mae Llwybr Taf yn mynd drwy’r parc sydd ar lan yr afon ac sy’n gartref i gyfleusterau bowlio, tennis a chriced yn ogystal â gweithgareddau megis golff troed a sesiynau rhedeg. Mae’r ardal chwarae antur yn lle sy’n dal dychymyg ein hymwelwyr iau wrth iddynt archwilio’r siglenni, y sleidiau a’r twnelau sy’n dathlu ein gorffennol diwydiannol balch.

Allwch chi ddim gadael y Parc heb alw heibio i’n Canolfan Ymwelwyr lle gwelwch chi fyrddau gwybodaeth am dreftadaeth, posau a gemau rhyngweithiol a sgriniau fideo mawr ymhlith llawer o bethau eraill.

Welwn ni chi yno!

Tywydd lleol

PONTYPRIDD WEATHER

Cyfeiriad

Ynysangharad Park & National Lido
Ynysangharad War Memorial Park
Pontypridd
CF37 4PE

Cysylltu

0300 004 0000

Oriau agor

MAE LIDO CENEDLAETHOL CYMRU, LIDO PONTY, YN AGOR.

Mae CYFYNGIADAU COVID-19 yn golygu bod capasiti’r sesiwn yn cael ei leihau i 48 o bobl mewn nofio yn gynnar y bore a 74 mewn sesiynau teulu. Gweler yr amserlen.

Gweler yr amserlen

Dim ond ar gyfer pobl yn eich swigen y gallwn archebu. Archebion ar wahân ar gyfer swigod ar wahân. Ffonau’n agor 6.30yb-9yb neu 5yp-8yp yn ystod yr wythnos a phenwythnosau 7.30yb-7yp.

E-bost: lidoponty@rctcbc.gov.uk

Beth sydd ar gael yn Parc Ynysangharad a’r Lido Cenedlaethol

Cyfleusterau
  • Amgueddfa
  • Caffi neu ystafell de
  • Canolfan ymwelwyr
  • Cyfleusterau newid babanod
  • Lleoedd i adael beiciau
  • Lleoedd newid i bobl anabl
  • Lleoedd parcio i bobl anabl
  • Meinciau yn yr awyr agored
  • Toiled i bobl anabl
  • Toiledau nad ydynt ar agor bob amser
  • Wi-fi (mewn/wrth ymyl adeiladau)
Bwyta ac yfed
  • Bwth/Caban
  • Bwyty (gyda mynediad ar gyfer pobl anabl)
  • Caffi neu ystafell de
  • Dewisiadau ar gael i feganiaid
  • Dewisiadau ar gael i lysieuwyr
  • Dewisiadau heb glwten ar gael
  • Fan hufen iâ
  • Meinciau picnic
  • Peiriant gwerthu bwyd a diod
  • Yn croesawu cŵn (y tu allan)
Hygyrchedd
  • Dolen glyw
  • Llwybrau ag wyneb solet
  • Mynediad ar gyfer beiciau
  • Mynediad ar gyfer cadeiriau gwthio (y tu mewn)
  • Mynediad ar gyfer cadeiriau olwyn (y tu mewn)
  • Tir â nodweddion cymysg
Gweithgareddau
  • 37 erw o barcdir
  • Cae chwaraeon
  • Llwybrau ag wyneb solet
  • Llwybrau beicio
  • Mynd â chŵn am dro
  • Parc: siglenni ac ati
Byd natur
  • Blodau gerddi
  • Blodau gwyllt
  • Byrddau gwybodaeth am fyd natur
  • Coed
  • Creaduriaid a phlanhigion y dŵr
  • Creaduriaid a phlanhigion y pyllau
  • Golygfeydd sy’n ymestyn ymhell
  • Gwrychoedd
  • Trychfilod a phryfed
Tirwedd
  • Caeau agored
  • Cornant
  • Gerddi
  • Nant
Treftadaeth
  • Adeilad hanesyddol
  • Byrddau gwybodaeth hanesyddol
  • Heneb
  • Person diddorol
  • Strwythur hanesyddol
Digwyddiadau a llety
  • Cyfleusterau ar gyfer priodas
  • Cyfleusterau cynadledda

Cyfarwyddiadau i Parc Ynysangharad a’r Lido Cenedlaethol

Skip to content