Gwarcheidwaid Parc Rhanbarthol y Cymoedd

Yn caru’r cymoedd? Yna helpwch nhw i ffynnu

Ydych chi’n mwynhau byw yn y Cymoedd ac yn awyddus i gyfrannau at y gwaith i sicrhau eu bod yn ffynnu ac yn edrych ar eu gorau? A ydych chi’n poeni am eich effaith ar natur? A ydych chi’n awyddus i gadw’n heini yn yr awyr agored a chwrdd â phobl newydd?

Mae Gwarcheidwaid Parc Rhanbarthol y Cymoedd yn dîm ymroddedig o arbenigwyr sy’n darparu gweithgareddau natur ledled y Cymoedd. Mae ein Gwarcheidwaid yn gweithio drwy ein Pyrth Darganfod ac yn ein cymunedau lleol. Maent yn cynnig cyfleoedd ysbrydoledig i bobl i feithrin perthynas â’r byd natur sydd ar garreg eu drws, ac i ddysgu sgiliau newydd sy’n eu helpu i ofalu am ein cynefinoedd a’n tirweddau naturiol a chyfoethog.

Mae Parc Rhanbarthol y Cymoedd yn ymestyn pob cam o Sir Gaerfyrddin i Bont-y-pŵl a Phen-y-bont ar Ogwr a draw tuag at Ferthyr Tudful. Mae felly’n debygol iawn bod gweithgareddau’n digwydd heb fod yn rhy bell oddi wrthoch chi!

Gallwch ymuno â’n Gwarcheidwaid a, thrwy’r rhaglen, gallech gwrdd â phobl newydd a datblygu ystod eang o sgiliau ymarferol a chymdeithasol – hyn oll wrth weithio yn ein cymoedd hardd. Fe allech chi:

  • Ddiogelu’r amgylchedd drwy waith cadwraeth ymarferol
  • Dysgu am fyd natur i’ch helpu i ddysgu eich plant gartref ac i wneud weithgareddau byw yn y gwyllt fel teulu
  • Meithrin byd natur drwy fentrau tyfu cymunedol lleol
  • Teimlo’n dda drwy gerdded – mae hyn yn llesol

Dewch i gael hwyl a darganfod mwy am yr ardal yr ydych yn byw ynddi – y dirwedd a’r bobl sydd ynddi!

Mae’r gweithgareddau i gyd am ddim. Mae croeso i bawb ac mae’n rhaid i wirfoddolwyr fod yn 16 oed neu’n hŷn (ac eithrio’r rhai sy’n cymryd rhan mewn gweithgareddau teuluol). Nid oes angen profiad na gwybodaeth flaenorol arnoch chi. Rydym yn darparu’r holl gyfarpar a hyfforddiant ac mae’r gweithgareddau’n cael eu cynnal yn ddiogel.

I wybod ymhle a phryd y mae gweithgareddau cyfredol Gwarcheidwaid Parc Rhanbarthol y Cymoedd yn digwydd, ewch i Groundwork South Wales.

I wybod rhagor neu i archebu lle ar un o’r rhaglenni, cysylltwch â Faye ar 07503 638108 neu e-bostiwch vrp@groundwork.org.uk

Rydym yn cynnal rhaglen Gwarcheidwaid Parc Rhanbarthol y Cymoedd ar y cyd â’n partner Groundwork South Wales.

Ewch i Groundwork South Wales

Skip to content