Canolfannau darganfod

Canolfan Treftadaeth y Byd Blaenafon

Mae Tirwedd Ddiwydiannol Blaenafon, sy’n borth i Gymoedd De Cymru ac sydd ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn rhannol, yn deyrnged i lowyr a gweithwyr haearn y gorffennol.

Mae’r Ganolfan mewn ardal 33 chilomedr sgwâr ac mae’r atyniadau, y digwyddiadau, y gweithgareddau a’r dirwedd yn gyrchfan berffaith ar gyfer diwrnod allan. Mae’r prif atyniadau megis Big Pit Amgueddfa Lofaol CymruGwaith Haearn Blaenafon, Canolfan Treftadaeth y BydRheilffordd Dreftadaeth Blaenafon i gyd o fewn ychydig funudau’n unig i’w gilydd, p’un a ydych yn gyrru neu’n cerdded. Mewn gwirionedd, mae cymaint o atyniadau gwych i’w cael fel y bydd angen i chi dreulio mwy na diwrnod yma i fwynhau popeth – felly cynlluniwch benwythnos os gallwch chi! Mae manylion am lety yn yr ardal i’w cael ar https://www.visitblaenavon.co.uk/cy/.

Blaenavon World Heritage Centre – Blaenavon World Heritage Site Partnership

Oherwydd bod Blaenafon yn brif ganolfan y byd o safbwynt cynhyrchu haearn a glo yn y 19eg ganrif gallwch weld olion y diwydiant haearn a glo, sy’n cynnwys pwll glo, ffwrneisi, chwareli, systemau rheilffyrdd, bythynnod gweithwyr haearn, eglwysi, capeli, ysgol a neuadd i weithwyr. Mae’r cyfan mewn tirwedd sy’n boblogaidd ymhlith cerddwyr, beicwyr, a beicwyr mynydd.

Keeper’s Pond – Blaenavon World Heritage Site Partnership

Mwynhewch eich ymweliad – pryd bynnag y byddwch yma!

Tywydd lleol

BLAENAVON WEATHER

Cyfeiriad

Blaenavon World Heritage Centre
Church Road
Blaenavon
NP4 9AS

Cysylltu

01495 742333

Oriau agor

Ar agor: Dydd Mawrth-Dydd Sul 10am-5pm
Ar gau: bob dydd Llun
ar wahân i Wyliau Banc

Bydd y cyfleusterau yng Nghanolfan Treftadaeth y Byd Blaenafon yn ailagor yn raddol o ddechrau mis Medi

Beth sydd ar gael yn Canolfan Treftadaeth y Byd Blaenafon

Cyfleusterau
  • Amgueddfa
  • Caffi neu ystafell de
  • Canolfan ymwelwyr
  • Cyfleusterau newid babanod
  • Lleoedd i adael beiciau
  • Lleoedd parcio i bobl anabl
  • Maes parcio rhad ac am ddim
  • Meinciau yn yr awyr agored
  • Siop anrhegion
  • Toiled i bobl anabl
  • Wi-fi (mewn/wrth ymyl adeiladau)
Bwyta ac yfed
  • Bwyty
  • Bwyty (gyda mynediad ar gyfer pobl anabl)
  • Caffi neu ystafell de
  • Dewisiadau ar gael i feganiaid
  • Dewisiadau ar gael i lysieuwyr
  • Dewisiadau heb glwten ar gael
  • Meinciau picnic
  • Yn croesawu cŵn (y tu allan)
Hygyrchedd
  • Dolen glyw
  • Mynediad ar gyfer cadeiriau gwthio (y tu mewn)
  • Mynediad ar gyfer cadeiriau olwyn (y tu mewn)
  • Tir â nodweddion cymysg
Gweithgareddau
  • Heicio
  • Llwybrau beicio
Byd natur
  • Adar gwyllt
  • Blodau gerddi
  • Blodau gwyllt
  • Coed
  • Creaduriaid a phlanhigion y dŵr
  • Golygfeydd sy’n ymestyn ymhell
  • Trychfilod a phryfed
Tirwedd
  • Caeau agored
  • Coetiroedd
  • Fforest
  • Gerddi
  • Llyn
  • Pwll
Treftadaeth
  • Adeilad hanesyddol
  • Byrddau gwybodaeth hanesyddol
  • Person diddorol
  • Strwythur hanesyddol
Digwyddiadau a llety
  • Cyfleusterau cynadledda

Cyfarwyddiadau i Canolfan Treftadaeth y Byd Blaenafon

Skip to content