Parc rhanbarthol y cymoedd ar gyfer gwneud ymarfer corff

Tirwedd iach, pobl iach

Wrth i dirwedd y Cymoedd ddychwelyd i’w chyflwr gwyrdd gwreiddiol, mae’n hybu iechyd a lles ein cymunedau a’n hymwelwyr. Mae’r tir yn darparu’r aer glân rydym yn ei anadlu, y bwyd rydym yn ei fwyta a’r dŵr rydym yn ei yfed, ac mae’n rhoi cyfleoedd di-ben-draw i ni wella ein ffitrwydd a’n herio ein hunain ar y tir godidog a garw.

P’un a ydych yn rhywun sydd â diddordeb mawr mewn ffitrwydd, yn rhywun sydd newydd ddechrau gwneud ymarfer corff neu’n rhywun a fyddai’n hoffi gwella eich gallu i symud, mae’r Canolfannau Darganfod yn ein Cymoedd yn cynnig ystod o gyfleusterau a gweithgareddau i’ch helpu wrth i chi geisio gwireddu eich nodau.

Mae yna gilomedrau o lwybrau i’w beicio, erwau o dir i’w dramwyo a llynnoedd dwfn i’w rhwyfo. I’r fath raddau nes y gallwch loncian, dringo, canŵio, sbrintio, chwarae a nofio gymaint ag a fynnwch!

Gall y tir fod mor heriol ag y dymunwch iddo fod – gallwch grwydro am filltiroedd ar hyd llwybrau troellog drwy rostiroedd a dolydd gwastad, cysgodi rhag y tywydd yn y coetiroedd, mentro i’r llynnoedd neu’r afonydd i fwynhau gweithgareddau dŵr, neu ddringo llwybrau serth dros dir garw a chael eich gwobrwyo gan olygfeydd ysblennydd o’r copa.

Mae gweithgareddau i’r teulu yn mynd yn fwyfwy poblogaidd. Wyddech chi fod mwyafrif ein Canolfannau Darganfod yn cynnig llwybrau beicio a chyfleusterau parcio, a bod rhai ohonynt hefyd yn gallu hurio beiciau os nad oes gennych rai. Caiff dosbarthiadau ffitrwydd wedi’u trefnu eu cynnal yn rheolaidd yn yr awyr agored ar nifer o’n safleoedd ar draws ein Cymoedd, o ddosbarthiadau ioga i gemau tennis a sesiynau rhedeg mewn parciau. Porwch ar Dewis Cymru i ddod o hyd i grwpiau o’r un anian â chi y gallech ymuno â nhw.

Mae gwneud rhywbeth mor syml â mynd am dro yn un o’r gweithgareddau ymarfer corff gorau y gallwch ei wneud, a bydd cyn lleied â hanner awr o gerdded yn fodd i wella lefelau ffitrwydd a cholli pwysau. Gallwch wneud hynny ar UNRHYW UN o’n safleoedd – ar eich pen eich hun neu gyda ffrindiau a theulu.

I gael gwybod beth sy’n digwydd ymhle, porwch drwy ein Canolfannau Darganfod sy’n cynnig cyfleusterau parcio, toiledau a lluniaeth.

Mae popeth yn ei le – y cyfan y mae angen i chi ei wneud yw mentro allan a bwrw iddi!

Skip to content