Canolfannau darganfod

Llyn Llech Owain

Wrth grwydro copaon cyfareddol yr ardal, hawdd iawn yw deall pam fod gan Lyn Llech Owain, y mae ei chwedlau hynafol yn dyddio’n ôl i ddiwedd y 14eg ganrif, le mor bwysig yn hanes Cymru.

Mae gan y Parc 180 erw hwn lwybrau natur, ardal antur sy’n cynnwys maes chwarae antur a wnaed o bren a maes chwarae i blant bach, ac felly mae’n lle gwych i ddod â’r teulu cyfan i fwynhau diwrnod allan. Trwy ddilyn trac drwy’r goedwig, gallwch fynd ar daith gerdded neu feiciau drawiadol o amgylch y parc gwledig, ac mae llwybr beiciau mynydd garw ar gyfer y beicwyr mwy anturus yn eich plith.

Yng nghanol y Parc Gwledig, ceir llyn sy’n dynodi tarddiad y ddwy afon Gwendraeth. Mae’r llyn wedi’i amgylchynu gan fawnog, ac mae’r cynefin prin hwn wedi’i ddynodi’n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig. Mewn mannau eraill, mae llecynnau o weundiroedd a choetiroedd llydanddail brodorol yn cael eu gwella a’u helaethu drwy glirio ac addasu’r coetiroedd conwydd sydd yma’n barod.

Yn sgil rhwydwaith o lwybrau cerdded, gellir mwynhau cerdded yn y llecyn hwn. Mae’r arwyneb ar nifer o’r llwybrau yn dda ac maent yn hygyrch i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn. Mae llwybr pwrpasol yn caniatáu i bobl gerdded dros y fawnog ac o amgylch y llyn yn ddiogel. Saif y Ganolfan Ymwelwyr wrth ymyl y llyn. O’r man hwnnw, gellir mwynhau golygfeydd godidog o’r llyn a thu hwnt. Yn ogystal â hynny, mae’r caffi ar y safle yn gwerthu cynnyrch cartref o ansawdd uchel. Mae yma hefyd lefydd i gael picnic a thai bach, ac mae modd i bobl anabl ddefnyddio’r cyfleusterau i gyd.

Gobeithiwn y dewch i ymweld â’r lle yn fuan!

Tywydd lleol

CARMARTHENSHIRE WEATHER

Cyfeiriad

Parc Gwledig Llyn Llech Owain
Church Road,
Gorslas
SA14 7NF

Cysylltu

01554 742435

Oriau agor

6am – 10pm

Beth sydd ar gael yn Llyn Llech Owain

Cyfleusterau
  • Caffi neu ystafell de
  • Canolfan ymwelwyr
  • Lleoedd i adael beiciau
  • Lleoedd parcio i bobl anabl
  • Meinciau yn yr awyr agored
  • Talu i barcio
  • Toiled i bobl anabl
  • Toiledau nad ydynt ar agor bob amser
  • Wi-fi (mewn/wrth ymyl adeiladau)
Bwyta ac yfed
  • Caffi neu ystafell de
  • Dewisiadau ar gael i lysieuwyr
  • Meinciau picnic
  • Yn croesawu cŵn (y tu allan)
Hygyrchedd
  • Llwybrau ag wyneb solet
  • Mynediad ar gyfer beiciau
  • Tir â nodweddion cymysg
Gweithgareddau
  • Ardal chwarae yn yr awyr agored
  • Beicio mynydd
  • Heicio
  • Llwybrau ag wyneb solet
  • Llwybrau beicio
  • Llwybrau graean
  • Llwybrau traul
  • Mynd â chŵn am dro
  • Parc: siglenni ac ati
Byd natur
  • Adar gwyllt
  • Blodau gwyllt
  • Byrddau gwybodaeth am fyd natur
  • Coed
  • Creaduriaid a phlanhigion y pyllau
  • Golygfeydd sy’n ymestyn ymhell
  • Mamaliaid gwyllt
  • Planhigion prin
  • Trychfilod a phryfed
Tirwedd
  • Bog/marsh
  • Coetiroedd
  • Fforest
  • Llyn
  • Nant
Treftadaeth
  • Byrddau gwybodaeth hanesyddol
  • Digwyddiad hanesyddol
  • Person diddorol
Digwyddiadau a llety
  • Dim categorïau

Cyfarwyddiadau i Llyn Llech Owain

Skip to content