Bryngarw Country Park – Awen Cultural Trust
Parc Rhanbarthol y Cymoedd
Mae Parc Rhanbarthol y Cymoedd, sy’n ymestyn o Gaerfyrddin i Bont-y-pŵl ac o Ben-y-bont ar Ogwr i Ferthyr, yn barc i bawb sy’n byw yn y Cymoedd, sy’n gweithio ynddynt neu sy’n ymweld â nhw. Mae’r dirwedd unigryw hon yn siŵr o gynnig profiadau cofiadwy i bawb: i aelodau’r teulu o bob oed, cerddwyr, y sawl sy’n frwd ynghylch ffitrwydd, a’r sawl sydd am wneud ffrindiau newydd neu wirfoddoli. Dewch i ddarganfod straeon anhygoel y Cymoedd a dysgu mwy am ein gwreiddiau; cwrdd â phobl o drefi a phentrefi cyfagos; profi bywyd gwyllt gwych y Cymoedd neu helpu i’w warchod; neu wneud rhywbeth mor syml â mwynhau’r awyr agored. Mae’r arlwy mor amrywiol â’r dirwedd.
Parc Slip, Wildlife Trust – G Gavigan
Cwrdd â phobl Parc Rhanbarthol y Cymoedd
P’un a ydych yn byw ac yn gweithio yma neu’n ymweld â’r ardal, cewch groeso heb ei ail pan fyddwch yn ymweld â Chanolfan Ddarganfod, yn ymuno â grŵp lleol neu’n gwirfoddoli.
Cefnogi mentrau cymunedol Parc Rhanbarthol y Cymoedd
Un elfen allweddol o lwyddiant ein Cymoedd yn y dyfodol yw helpu mentrau cymunedol i ffynnu. Dyma gyfle i chi gael gwybod beth rydym yn ei wneud i’w helpu i dyfu.
Welcome to Our Woods – Project Skyline / Mike Erskine
Y Canolfannau Darganfod
Mae Canolfannau Darganfod hynod o ddiddorol ar draws de Cymru, sy’n disgwyl am bobl i’w harchwilio, ac mae pob un ohonynt yn cynnig profiad pleserus hollol unigryw.
Cliciwch ar y map i ddod o hyd iddynt a dechreuwch gynllunio eich antur heddiw!
Ar gyfer teuluoedd
Ydych chi’n chwilio am weithgareddau difyr i bobl o bob oed yn eich teulu? Ewch allan o’r tŷ a dewch i’n Canolfannau Darganfod i ddarganfod llwyth o bethau newydd, dysgu mwy am wreiddiau’r Cymoedd a mwynhau gweithgareddau cyffrous.
Ar gyfer gwirfoddolwyr
Oes gyda chi ddiddordeb mewn cwrdd â phobl a chyflawni rhywfaint o waith da ar yr un pryd? Mae angen gwirfoddolwyr arnom ym mhob un o’n cymunedau ym Mharc Rhanbarthol y Cymoedd er mwyn helpu i gadw a gwarchod ein Cymoedd.
Ar gyfer byd natur
Mae’r Cymoedd yn gartref i rai o dirweddau naturiol mwyaf trawiadol Cymru a rhai o’i rhywogaethau bywyd gwyllt mwyaf eiconig. Bydd ymweld â’r Canolfannau Darganfod yn eich galluogi i fynd yn agosach nag erioed at fyd natur.
Ar gyfer gwneud ymarfer corff
Mae tirwedd arw’r Cymoedd yn cynnig cyfleoedd i ni hybu ein hiechyd. Mae yma rywbeth at ddant pawb, boed yn gyfleoedd i gerdded yn hamddenol a mwynhau golygfeydd hardd neu’n gyfleoedd i ymuno â grwpiau a gweithgareddau a gaiff eu trefnu!
Ar gyfer hybu lles
Ydych chi’n mwynhau tawelwch, cyfleoedd i ymlacio neu gyfleoedd i gwrdd yn yr awyr iach? Gallwch ddod o hyd i’r lle delfrydol yn ein Canolfannau Darganfod neu fentro allan i chwilio am eich lle arbennig personol chi. Mae yna rywbeth i’ch cyfareddu rownd pob cornel!
Hygyrchedd Parc Rhanbarthol y Cymoedd
Ein gweledigaeth yw sicrhau bod Parc Rhanbarthol y Cymoedd yn barc i bawb! Dyma gyfle i chi gael gwybod pa gyfleusterau y gallwch ddisgwyl eu gweld ac ymhle, a chyfle i chi greu cysylltiadau â grwpiau, sefydliadau a mudiadau sydd o’r un anian â chi.