Treulio amser yn y Cymoedd

Treulio amser yn y Cymoedd

O lwybrau cerdded lleol i weithgareddau sydd wedi’u trefnu i hybu lles, mae ein gwefan yn lle gwych i ddechrau chwilio am bethau diddorol a chyffrous i’w gwneud yn ein Cymoedd.

Ond does dim rhaid i chi fynd ati ar eich pen eich hun!

Gallech wahodd eich teulu, eich ffrindiau a’ch cymdogion i archwilio’r Canolfannau Darganfod gyda chi, neu efallai fod yn well gennych fentro allan ar eich pen eich hun. Os hoffech gwrdd â phobl newydd, mae Dewis Cymru yn wefan bartner sy’n cynnwys cyfleuster chwilio ar gyfer Cymru gyfan. Gallwch weld beth sy’n digwydd yn eich ardal, cysylltu â ffrindiau nad ydych wedi cwrdd â nhw eto, a chael hwyl wrth grwydro o le i le a mwynhau’r ardal rydych yn byw ynddi.

Beth sy’n gas am hynny?

Byddech yn synnu o weld faint o grwpiau sy’n cynnig amrywiaeth o weithgareddau yn eich ardal yn barod, o weithgareddau crefft a chlybiau llyfrau i chwaraeon ac ioga – unrhyw beth sydd at eich dant, mewn gwirionedd!

At hynny, gall y cyfleuster chwilio eich cysylltu â gweithwyr iechyd proffesiynol a pharod i helpu a allai, er enghraifft, eich cynorthwyo i wireddu eich nodau o ran iechyd a lles neu roi cymorth i chi fel gofalwr – mae’r opsiynau yn amrywiol tu hwnt.

I chwilio am grwpiau a gweithgareddau sydd wedi’u trefnu neu gymorth cyfeillgar, ewch i bori ar Dewis Cymru.

Yn ogystal, os ydych yn grŵp sydd ym Mharc Rhanbarthol y Cymoedd, gallwch gysylltu â Dewis a gofyn am gael eich ychwanegu at y gronfa ddata. Gorau po fwyaf y gall pob un ohonom ei wneud i gynorthwyo ein cymunedau a’u cysylltu, a helpu ein gilydd i ffynnu.

Mynd i’r Canolfannau Darganfod

Skip to content