Datganiad Hygyrchedd

Rydym yn parhau i weithio i sicrhau bod ein gwefan yn hygyrch i gynifer o bobl â phosibl, waeth beth yw eu hadnoddau technegol na’u gallu. Hefyd, rydym wedi ymrwymo i wella ein gwasanaethau ar-lein ar gyfer trigolion a busnesau.

Nodweddion hygyrchedd

Iaith glir

Rydym yn ceisio ysgrifennu mewn iaith glir ac yn osgoi jargon lle bo’n bosibl. Os nad ydych yn deall rhywbeth, rhowch wybod i ni.

Strwythurau penawdau

Mae’r wefan yn defnyddio strwythurau penawdau syml a ddylai ei gwneud yn haws i’w llywio, yn enwedig i bobl â darllenwyr sgrin.

Safonau’r we

Rydym yn gwneud ein gorau i gydymffurfio â safonau côd megis y rhai sy’n ymwneud â CSS a HTML, a chanllawiau W3C WAI.

Dolenni

Er mwyn rhoi gwybod i ddefnyddwyr darllenydd sgrin, rydym wrthi’n ychwanegu eiconau i’n holl ddolenni i ddogfennau sy’n agor mewn ffenestr newydd neu’n mynd i wefannau eraill. Mae gan yr eicon hefyd gynnwys cudd ar gyfer darllenwyr sgrin sy’n nodi bod dolenni’n agor mewn ffenestri newydd ac os ydynt yn cysylltu â gwahanol wefannau.

Ffurflenni

Nid yw’r ffurflenni a ddefnyddir ar y wefan hon yn gwbl hygyrch i ddarllenwyr sgrin. Rydym yn gweithio gyda’r DAC ar hyn o bryd i ddatrys hyn.

Dogfennau

Rydym yn ceisio gwneud ein dogfennau mor hygyrch â phosibl, ond weithiau ni ellir gwneud hyn. Os oes arnoch angen dogfen mewn fformat gwahanol, cysylltwch â ni a byddwn yn gwneud ein gorau i’w darparu.

Nodweddion tudalen newidiol

Maint y testun

Os ydych chi’n gweld bod maint diofyn testun y safle yn rhy fach neu fawr, gallwch ei newid gyda’r swyddogaeth maint testun yn eich porwr.

I newid maint y testun gan ddefnyddio eich porwr:

  • Defnyddiwch y ddewislen ‘Gweld’ ac yna dewis ‘Maint Testun’ yn Windows Internet Explorer (gan gynnwys Pocket IE)
  • Defnyddiwch y ddewislen ‘Gweld ac yna dewiswch ‘Maint Testun ‘, yn Firefox a phorwyr Mozilla eraill
  • Defnyddiwch yr opsiynau ‘Gweld’ ac yna ‘Gwneud Testun yn Fwy’, yn Safari
  • defnyddiwch y dewislenni ‘Gweld’ a ‘Steil’, ac yna ‘Modd Defnyddiwr ‘,yn Opera
  • Defnyddiwch y ddewislen ‘Gweld’ ac yna ‘Chwyddo Testun ‘, yn Macintosh Internet Explorer, a Netscape 6 a 7

Gyda llygoden olwyn, efallai y byddwch yn gallu newid maint y testun trwy ddal y Rheolaeth neu’r fysell Gorchymyn i lawr a throi’r olwyn. Mewn rhai porwyr, gallwch newid maint y testun gan ddefnyddio Rheolaeth neu Orchymyn a’r bysellau + neu .

Arddull testun a lliw

Gallwch hefyd nodi’r arddulliau ffont, lliwiau, yn ogystal â lliwiau’r blaendir a’r cefndir. Mae’r ffordd rydych chi’n gwneud hyn yn amrywio o borwr i borwr, ac mae angen i chi:

  • ddefnyddio ‘Offer (Tools)’ yn y ‘Dewisiadau Rhyngrwyd’, gyda Windows Internet Explorer (gan gynnwys Pocket IE)
  • defnyddio ‘Offer’ yn ‘Dewisiadau’ o dan ‘Cynnwys’, yn Firefox a phorwyr Mozilla eraill
  • Defnyddiwch yr opsiynau ‘Gweld’ ac yna ‘Gwneud Testun yn Fwy’, yn Safari
  • defnyddio’r ddewislen ‘Gweld’ ac yna ‘chwyddo’, yn Opera
  • Defnyddiwch y ddewislen ‘Gweld’ ac yna ‘Chwyddo Testun’, yn Macintosh Internet Explorer, a Netscape 6 a 7

Dogfennau

Mae’r canlynol yn berthnasol i gyfrifiaduron bwrdd gwaith a gliniaduron, ond nid tabledi na dyfeisiau symudol.

Dogfennau pdf: bydd y rhan fwyaf o gyfrifiaduron yn dangos y rhain yn awtomatig. Os oes angen y meddalwedd arnoch, gallwch lawrlwytho’r darllenydd PDF am ddim o wefan Adobe.

Cynnwys amlgyfrwng

Mae fideos ein gwefan wedi’u hymgorffori trwy’r wefan YouTube. Oherwydd hyn, efallai na fydd rhai nodweddion hygyrchedd ar gael, sydd y tu hwnt i’n rheolaeth. Ewch i dudalennau help YouTube i gael gwybodaeth am gael mynediad i fideos gyda darllenwyr sgrin.

Cynnwys wedi’i ymgorffori

Mae ein gwefan yn defnyddio cynnwys a ymgorfforwyd o wefannau eraill. Gall hyn leihau hygyrchedd wrth geisio cael mynediad i gynnwys yn uniongyrchol drwy’r bysellfyrddau neu dechnoleg darllenydd sgrin. Os yw’r mater hwn yn effeithio arnoch chi, cysylltwch â ni er mwyn i ni allu helpu lle’n bosibl, a datrys unrhyw broblemau.

Skip to content