Canolfannau darganfod

Castell Caerffili

Castell Caerffili yw castell mwyaf Cymru ac ail fwyaf Prydain (Castell Windsor yw’r mwyaf) ac mae’n edrych dros safle trawiadol 30 erw. Mae yno dyrau i’w harchwilio, drysfa i’w datrys, a ffau ddreigiau a mawredd y Neuadd Fawr i’w darganfod; mae Castell Caerffili yn faes chwarae delfrydol i haneswyr ifanc.

Cafodd y gaer ganoloesol hon ei hadeiladu rhwng 1268 ac 1271 yn bennaf gan Gilbert de Clare. Câi ei alw’n Gilbert ‘The Red’ oherwydd ei wallt coch a oedd yn arwydd o’i dras Normanaidd, a chododd y castell hwn er mwyn rheoli Morgannwg ac atal Llywelyn ap Gruffudd, Tywysog Cymru, rhag gwireddu ei ddyheadau yn y de.

Caerphilly Castle – Cadw / Caerphilly CBC

Ymosododd y Cymry droeon ar Gastell Caerffili, ond mae wedi parhau’n gaer anodd ei chipio ac efallai’n un o’r cadarnleoedd cryfaf a welwyd erioed. Methodd hyd yn oed ymdrechion pengryniaid Oliver Cromwell â thorri drwy ffiniau’r castell, er iddynt adael marc eithaf amlwg arno, sef y tŵr cam enwog sydd ar ogwydd o 3 metr ers 1648.

Dewch atom i weld y cyfan!

Tywydd lleol

CAERPHILLY WEATHER

Cyfeiriad

Caerphilly Castle
Castle St
Caerphilly
CF83 1JD

Cysylltu

02920 883143

Oriau agor

Mae Castell Caerffili bellach ar agor i ymweld ag ef: Dydd Mercher, Iau, Gwener, Sadwrn, Sul rhwng 10am–1pm a 2pm–5pm.

Bydd angen i chi archebu tocyn mynediad ag amser penodol o leiaf 24 awr ymlaen llaw ar ein tudalen archebu.

Beth sydd ar gael yn Castell Caerffili

Cyfleusterau
  • Canolfan ymwelwyr
  • Siop anrhegion
  • Talu i barcio
  • Toiled i bobl anabl
  • Toiledau nad ydynt ar agor bob amser
Bwyta ac yfed
  • Dim categorïau
Hygyrchedd
  • Tir â nodweddion cymysg
Gweithgareddau
  • Canllawiau i lwybrau cerdded ar gael ar y wefan
Byd natur
  • Dim categorïau
Tirwedd
  • Dim categorïau
Treftadaeth
  • Castell
Digwyddiadau a llety
  • Dim categorïau

Cyfarwyddiadau i Castell Caerffili

Skip to content