Canolfannau darganfod

Gwarchodfa Natur Parc Slip

Mae’r warchodfa natur 300 erw a chanolfan ymwelwyr yr Ymddiriedolaeth Natur yn cynnig rhywbeth at ddant pawb!

Mae’r warchodfa yn gartref i dros 1,000 o rywogaethau bywyd gwyllt anhygoel a rhai o blanhigion prinnaf Cymru. Mae’r rhywogaethau hynny’n amrywio o’r fadfall ddŵr gribog sydd mewn perygl o ddiflannu ac sy’n bridio yn y pyllau a’r llynnoedd, i’r llygod medi swil a’r cornchwiglod carismatig sydd i’w gweld yn y dolydd blodau gwyllt. Mae’r dolydd hynny hefyd yn llawn tegeirianau, carpiog y gors a blodau menyn. Does dim rheswm pam na allwch fynd yn WYLLT yma!

At hynny mae gan y warchodfa amrywiaeth o gynefinoedd i’w harchwilio a thros 10 cilomedr o lwybrau cerdded. Mae’r rheini yn cynnwys ein 4 llwybr cerdded GWYLLT newydd i’r teulu a llwybrau beicio didraffig sy’n cynnwys 4 cilomedr o Lwybr Beicio Cenedlaethol Rhif 4 Sustrans! Mae gennym hefyd gaffi sydd ag ardal eistedd yn yr awyr agored, cysgodfan â tho gwyrdd i feiciau a man gwefru ceir trydan.

Mae ein caffi wrthi’n datblygu ei arlwy, felly dewch draw i flasu cawl cartref blasus. Mae hefyd yn cynnig llawer o ddewisiadau i lysieuwyr a feganiaid yn ogystal â phrydau bwyd mwy traddodiadol sy’n cynnwys cig. A bydd cacen ar gael bob amser, wrth gwrs!

Mae’r ganolfan ymwelwyr ar agor o 10am tan 4pm o ddydd Mawrth i ddydd Sul ac mae’n hygyrch i bawb. Gallwch barcio am ddim hefyd!

Tywydd lleol

BRIDGEND WEATHER

Cyfeiriad

Parc Slip Nature Reserve and Visitor Centre
Fountain Road
Ton-du
Pen-y-bont ar Ogwr
CF32 0EH

Cysylltu

01656 726987

Oriau agor

Siop coffi, Dydd Mercher – Dydd Sul, 10am – 4pm

Beth sydd ar gael yn Gwarchodfa Natur Parc Slip

Cyfleusterau
  • Caffi neu ystafell de
  • Canolfan ymwelwyr
  • Cyfleusterau newid babanod
  • Lleoedd i adael beiciau
  • Lleoedd parcio i bobl anabl
  • Maes parcio rhad ac am ddim
  • Man gwefru ceir trydan
  • Meinciau yn yr awyr agored
  • Toiled i bobl anabl
  • Toiledau nad ydynt ar agor bob amser
  • Wi-fi (mewn/wrth ymyl adeiladau)
Bwyta ac yfed
  • Bwyty (gyda mynediad ar gyfer pobl anabl)
  • Caffi neu ystafell de
  • Dewisiadau ar gael i feganiaid
  • Dewisiadau ar gael i lysieuwyr
  • Dewisiadau heb glwten ar gael
  • Meinciau picnic
  • Yn croesawu cŵn (y tu allan)
Hygyrchedd
  • Mynediad ar gyfer beiciau
  • Mynediad ar gyfer cadeiriau gwthio (y tu mewn)
  • Mynediad ar gyfer cadeiriau olwyn (y tu mewn)
  • Tir â nodweddion cymysg
  • Tir gwastad
Gweithgareddau
  • Llwybrau beicio
  • Llwybrau graean
  • Mynd â chŵn am dro
Byd natur
  • Adar gwyllt
  • Blodau gerddi
  • Blodau gwyllt
  • Byrddau gwybodaeth am fyd natur
  • Coed
  • Creaduriaid a phlanhigion y dŵr
  • Creaduriaid a phlanhigion y pyllau
  • Golygfeydd sy’n ymestyn ymhell
  • Gwrychoedd
  • Mamaliaid gwyllt
  • Planhigion prin
  • Trychfilod a phryfed
Tirwedd
  • Bog/marsh
  • Caeau agored
  • Coetiroedd
  • Cornant
  • Nant
  • Pwll
Treftadaeth
  • Byrddau gwybodaeth hanesyddol
  • Digwyddiad hanesyddol
  • Heneb
  • Strwythur hanesyddol
Digwyddiadau a llety
  • Cyfleusterau cynadledda

Cyfarwyddiadau i Gwarchodfa Natur Parc Slip

Skip to content