Parc rhanbarthol y cymoedd ar gyfer hybu lles

Nid da lle gellir gwell

Mae llawer o sôn ym mhob man am les, ond beth mae’n ei olygu a pham mae’n bwysig?

Mae teimlo’n dda yn feddyliol, yn emosiynol ac yn gorfforol yn sylfaen ar gyfer bywyd dymunol. Os oes unrhyw beth o’i le ar un o’r elfennau hynny, gall achosi anesmwythdra byrdymor ac arwain at gymhlethdodau eraill yn y dyfodol.

Mae tystiolaeth yn dangos bod mynd allan i fyd natur yn cael effaith gadarnhaol ar les, yn enwedig os ydych yn teimlo’n isel eich ysbryd neu’n unig, ac yn fwyfwy aml mae meddygon yn argymell ‘presgripsiynau gwyrdd’ yn hytrach na meddyginiaeth.

Ers y pandemig Covid-19, mae pobl wedi sylweddoli bod ymlacio yn yr awyr agored a chael mynediad i fyd natur a mannau gwyrdd yn hanfodol. Mae pobl yn awyddus i dreulio mwy o amser yn yr awyr agored, cryfhau eu cysylltiad â byd natur, teimlo’n llai unig a theimlo cysylltiad cryfach â phobl eraill. Ydych chi’n teimlo felly?

Mae cynnydd dramatig wedi bod yn nifer y gweithgareddau grŵp sy’n digwydd yn ein parciau a’n mannau gwyrdd, oherwydd bod pobl yn awyddus i gwrdd â’i gilydd yn yr awyr agored. Ac mae pob un ohonom wedi sylweddoli mor bwysig yw cael cydbwysedd da rhwng bywyd a gwaith, a bod gorffwys a chwarae yr un mor bwysig â mynd i’r gwaith neu fynychu’r ysgol.

Gall Parc Rhanbarthol y Cymoedd a’r dirwedd eich helpu nid yn unig i gynnal eich lles yn gyffredinol ond hefyd i ffynnu – hyd yn oed os ydych yn teimlo’n swil, yn nerfus neu’n hunanymwybodol ynghylch mynd allan. Dewiswch o blith amrywiaeth o weithgareddau sy’n cynnwys gweithgareddau hamddenol megis paentio, ymwybyddiaeth ofalgar, ioga a physgota, ac ewch ati i’w gwneud ar eich pen eich hun neu gyda phobl eraill mewn lleoliadau godidog sy’n amrywio o fforestydd a dolydd i barciau a llynnoedd.

Cymerwch gip ar yr amrywiaeth o bethau sydd i’w gwneud yn y Canolfannau Darganfod. Neu porwch ar Dewis Cymru i ddod o hyd i bobl a grwpiau o’r un anian â chi y gallech ymuno â nhw.

Skip to content