Cefnogi busnesau parc rhanbarthol y cymoedd

Cadw’r £ yn lleol

Ar draws ein Cymoedd, rydym yn credu mewn gwneud ein gorau glas i gefnogi busnesau bach a chanolig eu maint. Dyna pam rydym yn hyrwyddo’r mentrau ‘Keep it Local’ a ‘Save Your High Street’.

Mae’r punnoedd a gaiff eu gwario yn y Cymoedd ar gynnyrch a gwasanaethau lleol yn helpu i gadw’r arian hwnnw yn y Cymoedd, sydd yna’n helpu busnesau lleol (a’u teuluoedd) i oroesi. Pan fydd mwy ohonom yn siopa’n lleol, bydd busnesau bach megis manwerthwyr bwyd a diod arbenigol sy’n darparu cynnyrch lleol, yn gweld mwy o werthiant. Mae hynny’n rhywbeth y dylai pob un ohonom fod yn ei hyrwyddo.
Gall eich busnes gefnogi mentrau cymunedol Parc Rhanbarthol y Cymoedd drwy ymweld â’n parc ar gyfer cyfarfodydd yn yr awyr agored, neu gallwch wella cynhyrchiant drwy drefnu diwrnodau cwrdd i ffwrdd er mwyn meithrin tîm neu drwy gwrdd yn ein caffis a defnyddio eu cyfleusterau Wi-fi.

Cadw’r £ yn gymdeithasol

Yn ogystal, mae gan y parc gymuned lewyrchus o fentrau’n barod. Mae llawer o’r mentrau cymunedol yn gwerthu nwyddau a gwasanaethau fel unrhyw fusnes arall ond maent hefyd wedi ymrwymo i:

  • helpu’r gymuned
  • sicrhau budd i’w staff
  • neu wneud mwy er lles yr amgylchedd

Dyma ein blaenoriaethau o ran busnes:

  • Cynlluniau ynni cymunedol
  • Tyfu a dosbarthu bwyd yn y gymuned
  • Rheoli tir cymunedol
  • Dulliau ‘gwyrdd’ o ofalu am les a iechyd meddwl
  • Dulliau ‘gwyrdd’ o ddarparu hyfforddiant

Felly, os ydych yn fenter gymunedol ym Mharc Rhanbarthol y Cymoedd, mae croeso i chi gysylltu â ni.

At hynny, wyddech chi fod cymorth ar gael yn arbennig i chi os ydych yn grŵp gwirfoddol, yn elusen neu’n fusnes cymdeithasol?

Cliciwch yma i archwilio’r opsiynau gan ddefnyddio’r cyfleuster Canfyddwr Cyllid

Skip to content