Canolfannau darganfod

Fforest Cwm-carn

Dyma gyfle i ffoi i fyd natur! O anturiaethau llawn cyffro i nosweithiau tawel oddi cartref, mae Fforest Cwm-carn yn ddigon agos i encilio iddi ond yn teimlo fel pe bai filoedd o filltiroedd i ffwrdd. Mae bryniau’r hen ardal lofaol hon wedi’u trawsnewid yn fforestydd heddychlon â golygfeydd ysblennydd lle mae natur wedi adennill ei gafael ar yr hen orffennol diwydiannol.

Mae Fforest Cwm-carn yn nefoedd i feicwyr mynydd sy’n chwilio am gyffro ac sy’n byw ar adrenalin, ac mae ganddi dri llwybr beicio mynydd (gydag un arall a fydd yn agor yn fuan), digon o leoedd parcio, siop atgyweirio beiciau a gwasanaeth cludo beicwyr i dop y llwybrau. Mae gweithgareddau dŵr a gweithgareddau cyfeiriannu ar gael hefyd i’r sawl sydd am gael hwyl, yn ogystal â maes chwarae antur.

P’un a ydych yn hoff o gerdded pellter hir neu gerdded yn fwy hamddenol, mae popeth i’w gael yn Fforest Cwm-carn, o’r llwybrau serth anodd i fyny Twmbarlwm i’r llwybrau gwastad o amgylch y fforest a llawr y cwm.

Gallwch fwynhau brecwast, byrbrydau a phrydau mwy sylweddol yng Nghaffi’r Gigfran sydd yn y ganolfan ymwelwyr yng Nghwm-carn. Ac mae croeso i’r sawl sydd am aros dros nos wneud hynny yn un o’n podiau glampio neu yn un o’r cabanau sydd wedi cyrraedd yn ddiweddar.

P’un a ydych yn chwilio am gyffro neu’n awyddus i ymlacio, chi biau’r dewis yn Fforest Cwm-carn.

Tywydd lleol

NEWPORT WEATHER

Cyfeiriad

Cwmcarn Forest
Nantcarn Road
Cwm-carn
ger Crosskeys
NP11 7FE

Cysylltu

01495 272001

Oriau agor

Mae’r oriau agor wedi newid yn ystod y pandemig Covid-19
Oriau agor arferol: Ar agor bob dydd o 9:00am tan 5:00pm ond yn cau am 4.30pm ar ddydd Gwener yn ystod y gaeaf.

Ar gau yn ystod cyfnod y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd o 25 Rhagfyr tan 2 Ionawr.
PARCIO AM DDIM tan fis Ionawr 2021

Beth sydd ar gael yn Fforest Cwm-carn

Cyfleusterau
  • Caffi neu ystafell de
  • Canolfan ymwelwyr
  • Lleoedd parcio i bobl anabl
  • Man gwefru ceir trydan
  • Meinciau yn yr awyr agored
  • Siop anrhegion
  • Toiled i bobl anabl
  • Toiledau nad ydynt ar agor bob amser
  • Wi-fi (mewn/wrth ymyl adeiladau)
Bwyta ac yfed
  • Caffi neu ystafell de
  • Meinciau picnic
  • Yn croesawu cŵn (y tu allan)
Hygyrchedd
  • Mynediad ar gyfer beiciau
  • Mynediad ar gyfer cadeiriau gwthio (y tu mewn)
  • Mynediad ar gyfer cadeiriau olwyn (y tu mewn)
  • Tir â nodweddion cymysg
Gweithgareddau
  • Ardal chwarae yn yr awyr agored
  • Beicio mynydd
  • Canŵio
  • Heicio
  • Llwybrau beicio
  • Mynd â chŵn am dro
  • Parc: siglenni ac ati
  • Pysgota
Byd natur
  • Adar gwyllt
  • Blodau gerddi
  • Blodau gwyllt
  • Coed
  • Creaduriaid a phlanhigion y dŵr
  • Creaduriaid a phlanhigion y pyllau
  • Golygfeydd sy’n ymestyn ymhell
  • Gwrychoedd
  • Planhigion prin
  • Trychfilod a phryfed
Tirwedd
  • Coetiroedd
  • Fforest
  • Llyn
  • Nant
Treftadaeth
  • Dim categorïau
Digwyddiadau a llety
  • Cyfleusterau cynadledda
  • Cyfleusterau gwersylla

Cyfarwyddiadau i Fforest Cwm-carn

Skip to content