Polisi Cwcis

Beth yw Cwcis

Mae cwci yn ffeil fach sy’n cael ei gosod ar yriant caled eich cyfrifiadur i helpu i storio eich dewisiadau fel defnyddiwr, mewngofnodi a sesiynau, dadansoddi traffig ar y we neu roi gwybod i chi pan fyddwch yn ymweld â safle penodol. Mae cwcis yn caniatáu ceisiadau ar y we i ymateb i chi fel unigolyn. Gall y cymhwysiad gwe deilwra ei weithrediadau yn ôl eich anghenion, hoff bethau a chas bethau drwy gasglu a chofio gwybodaeth am eich dewisiadau.

At ei gilydd, mae cwcis yn ein helpu i ddarparu gwell gwefan, drwy ein galluogi i fonitro pa dudalennau sydd o ddefnydd i chi ai beidio. Nid yw cwci mewn unrhyw ffordd yn rhoi mynediad at eich cyfrifiadur neu unrhyw wybodaeth amdanoch, heblaw am y data rydych yn dewis ei rannu gyda ni.

Mae’r rhan fwyaf o borwyr gwe yn derbyn cwcis yn awtomatig, ond fel arfer gallwch addasu gosodiad eich porwr i wrthod cwcis os yw’n well gennych. Gall hyn eich atal rhag manteisio’n llawn ar y wefan.

Cwcis a Ddefnyddir ar y Safle Yma

Gellir gosod y cwcis a ganlyn.

cookielawinfo-checkbox-necessary, cookielawinfo-checkbox-non-necessary, pll_language, CookieLawInfoConsent, viewed_cookie_policy: Mae’r cwcis yma yn storio gwybodaeth dros dro i alluogi’r safle i weithio. Nid oes gwybodaeth bersonol yn cael ei storio yn y cwcis yma, dim ond stampiau amser a neu/deunydd adnabod ôl bysedd sy’n gysylltiedig â’r sesiwn bori dan sylw.

Google Analytics: _ga, _gat_gtag_UA_74731569_1, _gid: Rydym yn defnyddio Google Analytics i fonitro ac adrodd ar y defnydd a wneir o’n gwefan, megis y nifer o ymwelwyr â’r safle, ymadroddion y chwiliwyd amdanynt a thudalennau yr ymwelwyd â hwy i ddod o hyd i ni, yn ogystal â’r amser a dreuliwyd ar y safle. Mae’r ystadegau a gasglwyd yn ofyniad angenrheidiol er mwyn i ni ddarparu a gwella ein cynnyrch a gwasanaethau gwerth ychwanegol a pharhau i fod yn gystadleuol. Nid yw’r cwcis yn adnabod defnyddwyr nac yn cysylltu eich cyfeiriad IP ag unrhyw wybodaeth bersonol adnabyddadwy. Defnyddir y cwcis hyn i gasglu gwybodaeth am sut mae ymwelwyr yn mynd ati i ddefnyddio ein safle. Rydym yn defnyddio’r wybodaeth i lunio adroddiadau ac i’n helpu i wella’r safle. Mae’r cwcis yn casglu gwybodaeth ar ffurf ddienw, gan gynnwys nifer yr ymwelwyr â’r safle, o ble daeth yr ymwelwyr i’r safle a’r tudalennau y maent yn ymweld â hwy. Mae polisi preifatrwydd Google ar gael yma http://www.google.com/analytics/learn/privacy.html

Cwcis Trydydd Parti

Mae ein gwefan yn defnyddio nodweddion o wefannau eraill a allai adael cwci. Mae’r rhain yn gwcis trydydd parti ac ni allwn eu rhwystro na’u hatal heb gael gwared ar y nodwedd o’n safle. I gael gwybodaeth am y cwcis yma byddai angen i chi edrych am bolisi cwcis y dechreuwr ar ei wefan. Mae cwcis trydydd parti a adewir fel a ganlyn:

Facebook: Mae ein gwefan yn defnyddio botwm ymarferoldeb ‘Like’ Facebook i rannu cynnwys. Os yw defnyddiwr yn clicio ar y botwm hwn a mewngofnodi i Facebook drwy ein gwefan, bydd Facebook yn gadael cwci ar gyfrifiadur y defnyddwyr. Yr un yw’r broses a phetai defnyddiwr yn mewngofnodi’n uniongyrchol i Facebook, neu’n clicio Like ar unrhyw wefan arall. Mae polisi preifatrwydd Facebook wedi’i nodi yma http://www.facebook.com/about/privacy/ 

Sut i Analluogi Cwcis

Mae’r rhan fwyaf o borwyr gwe yn caniatáu rhywfaint o reolaeth dros y rhan fwyaf o gwcis drwy’r gosodiadau porwr. I gael gwybod mwy am gwcis, gan gynnwys sut i weld pa gwcis sydd wedi’u gosod a sut i’w rheoli a’u dileu, ewch i www.allaboutcookies.org. I ddewis peidio â chael eich tracio gan Google Analytics ar draws pob gwefan ewch i http://tools.google.com/dlpage/gaoptout.

Skip to content