Canolfannau darganfod

Castell a Pharc Cyfarthfa

Mae Parc Cyfarthfa mewn 160 erw o barcdir lle gellir mwynhau golygfeydd godidog ar draws y cwm ac i gyfeiriad Bannau Brycheiniog, ac mae’n cynnig diwrnod allan gwych i’r teulu cyfan, boed law neu hindda!

Dewch i fwynhau llonyddwch a moethusrwydd Caffi Canolfan Cyfarthfa tra byddwch yn cadw golwg ar eich plant yn chwarae yn y Pad Sblasio a’r Lle Chwarae. Beth am fynd ar y trên bach, chwarae tennis, mwynhau Llwybr Natur Crawshay neu geisio dod o hyd i’r cerfiadau pren hardd sydd ynghanol y coed?

Dewch i ymlacio yn ein gerddi synhwyraidd, mwynhau pysgota ar y llyn a chrwydro ar hyd llwybrau hygyrch y coetiroedd, a mentro ar hyd y llwybrau natur er mwyn gweld yr amrywiaeth o rywogaethau anifeiliaid, adar a phlanhigion sydd yn y parc. Dewch i ymweld â’r ystafelloedd te cywrain i fwynhau byrbrydau blasus a danteithion cartref.

Mae Amgueddfa ac Oriel Gelf Castell Cyfarthfa yn gartref i gasgliad rhagorol o arteffactau sy’n cwmpasu 2,000 o flynyddoedd o hanes Merthyr. Gadewch i straeon pobl Merthyr Tudful eich cludo’n ôl i’r adeg pan oedd y dref yn Brifddinas Haearn y Byd. Dyma gyfle i chi ddysgu sut yr helpodd Merthyr Tudful i lunio ein hanes modern wrth i ddylanwad y dref gyrraedd pen draw’r byd. Efallai y byddwch hefyd am ymweld â bwthyn nodweddiadol gweithiwr haearn o’r 19eg ganrif lle cafodd Joseph Parry, cyfansoddwr enwocaf Cymru, ei eni yn 1841.

Mae’r parc hefyd yn lleoliad gwych ar gyfer digwyddiadau a chaiff sioeau ceffylau, arddangosiadau crefft, cyngherddau, digwyddiadau elusennol a rasys hwyl eu cynnal yno’n aml.

Dyma gyfle na ddylech ei golli – cofiwch alw heibio’n fuan!

Tywydd lleol

MERTHYR TYDFIL WEATHER

Cyfeiriad

Cyfarthfa Park & Castle
Parc Cyfartha
Brecon Road
Merthyr Tudful
CF47 8RE

Cysylltu

01685 727371

Oriau agor

Ar agor: o 6am ymlaen drwy gydol y flwyddyn
Yn cau:
am 7:45pm ym mis Ebrill,
am 8:45pm ym mis Mai,
am 9:45pm ym mis Mehefin,
am 9:15pm ym mis Gorffennaf,
am 8:45pm ym mis Awst,
am 7:15pm ym mis Medi,
am 6:30pm ym mis Hydref,
am 5:15pm ym mis Tachwedd,
am 4:45pm ym mis Rhagfyr,
am 4:45pm ym mis Ionawr,
am 5:15pm ym mis Chwefror,
am 6:15pm ym mis Mawrth

Beth sydd ar gael yn Castell a Pharc Cyfarthfa

Cyfleusterau
  • Amgueddfa
  • Caffi neu ystafell de
  • Cyfleusterau newid babanod
  • Lleoedd parcio i bobl anabl
  • Maes parcio rhad ac am ddim
  • Meinciau yn yr awyr agored
  • Oriel
  • Siop anrhegion
  • Toiled i bobl anabl
  • Toiledau nad ydynt ar agor bob amser
Bwyta ac yfed
  • Caffi neu ystafell de
  • Meinciau picnic
  • Yn croesawu cŵn (y tu allan)
Hygyrchedd
  • Dolen glyw
  • Llwybrau ag wyneb solet
  • Mynediad ar gyfer cadeiriau gwthio (y tu mewn)
  • Mynediad ar gyfer cadeiriau olwyn (y tu mewn)
  • Tir bryniog
Gweithgareddau
  • Ardal chwarae yn yr awyr agored
  • Cae chwaraeon
  • Heicio
  • Llwybrau ag wyneb solet
  • Llwybrau graean
  • Llwybrau traul
  • Mynd â chŵn am dro
  • Parc: siglenni ac ati
  • Pysgota
Byd natur
  • Adar gwyllt
  • Blodau gerddi
  • Blodau gwyllt
  • Byrddau gwybodaeth am fyd natur
  • Coed
  • Creaduriaid a phlanhigion y dŵr
  • Creaduriaid a phlanhigion y pyllau
  • Golygfeydd sy’n ymestyn ymhell
  • Gwrychoedd
  • Mamaliaid gwyllt
  • Planhigion prin
  • Trychfilod a phryfed
Tirwedd
  • Caeau agored
  • Coetiroedd
  • Gerddi
  • Llyn
  • Pwll
Treftadaeth
  • Adeilad hanesyddol
  • Byrddau gwybodaeth hanesyddol
  • Castell
  • Digwyddiad hanesyddol
  • Heneb
  • Person diddorol
  • Strwythur hanesyddol
Digwyddiadau a llety
  • Cyfleusterau ar gyfer priodas
  • Cyfleusterau cynadledda
  • Trwydded ar gyfer seremonïau sifil

Cyfarwyddiadau i Castell a Pharc Cyfarthfa

Skip to content