Parc Rhanbarthol y Cymoedd ydyn ni — rydyn ni’n frwd dros lesiant, diwylliant, yr amgylchedd a’r gymuned yng Nghymoedd y De.
Mae Parc Rhanbarthol y Cymoedd yn hyrwyddo pobl a thirwedd eiconig Cymoedd y De, gan weithio gyda phartneriaid i sicrhau’r buddion amgylcheddol a chymdeithasol mwyaf posibl i gymunedau lleol ac i genedlaethau’r dyfodol.
Trwy brosiectau amrywiol sy’n canolbwyntio ar y gymuned a mentrau awyr agored, rydym yn benderfynol o weithio mewn partneriaeth â chi, pobl y Cymoedd, i sicrhau bod ein rhanbarth yn parhau i fod yn lle gwych i weithio, i fyw ac i’w ddarganfod.
P’un a ydych am helpu i ddiogelu tirwedd y rhanbarth trwy gymryd rhan mewn gweithgareddau cadwraeth amgylcheddol am ddim yn un o’n safleoedd Pyrth Darganfod, darganfod eich tirwedd werdd leol o’r newydd, neu hybu’ch iechyd a’ch lles trwy dreulio amser yn yr awyr agored ymhlith natur.
Gofalu am y Cymoedd a’i bobl? Mae Yn Ein Natur.
Yn ymestyn o Sir Gaerfyrddin yn y gorllewin i Bont-y-pŵl yn y dwyrain; ac o Ben-y-bont ar Ogwr yn y de i Ferthyr Tudful yn y gogledd, mae Cymoedd y De yn gartref balch i gymunedau ffyniannus, mannau gwyrdd agored a thirweddau dramatig.
Fel rhan o’n gwaith, rydyn ni’n ymdrechu i ddathlu’r harddwch naturiol a’r dreftadaeth gyfoethog sydd gan ein rhanbarth i’w gynnig, a dyna pam rydyn ni wedi nodi deuddeg lleoliad ar draws y Cymoedd sy’n gwneud yn union hynny… a llawer mwy.
Dyma gyflwyno ein Pyrth Darganfod. O barciau gwledig a safleoedd treftadaeth i warchodfeydd natur, mae’r lleoedd arbennig hyn yn cynnig profiadau cofiadwy ac ysbrydoledig i bawb, waeth beth fo’ch oed a’ch diddordeb.
Dan Lock
Ydych chi’n deulu sy’n chwilio am hwyl? Neu ydych chi am fentro allan i’r awyr agored yn amlach? Ydych chi’n teimlo’n heini’n barod ac yn chwilio am eich gweithgaredd awyr agored nesaf? Efallai yr hoffech chi wneud ffrindiau newydd? Hoffech chi wella’ch symudedd? Neu a fyddai helpu i warchod a diogelu bywyd gwyllt ac amgylchedd naturiol y Cymoedd yn apelio i chi?
Mae’r cyfleoedd mor amrywiol â’r dirwedd newidiol. Edrychwch ar ein gwefan i weld sut y gallwn eich helpu chi – a sut y gallwch chi helpu’r Cymoedd i barhau i ffynnu yn gyfnewid.
Beth rydym yn ei wneud
Nid un gymuned yn unig mo’n Cymoedd, ond llawer o gymunedau sydd â safbwyntiau gwahanol a dyheadau amrywiol. Rydym yn bartneriaeth, sy’n golygu ein bod yn annog pawb i gydweithio â’i gilydd er mwyn gwireddu’r nodau canlynol ar draws ein Cymoedd.
Rydym yn ysbrydoli newidiadau er gwell i’r modd rydym yn gofalu am dirwedd ein Cymoedd.
Rydym yn cysylltu pobl ag ystod eang o weithgareddau awyr agored er mwyn hybu eu hiechyd a’u lles.
Rydym yn cynorthwyo cymunedau i archwilio syniadau a mentrau newydd.
Gyda phwy y gweithiwn
Cawn ein llywodraethu gan fwrdd sy’n cynnwys arweinwyr 13 o awdurdodau lleol:
Mentrau cymunedol | Elusennau | Sefydliadau’r Llywodraeth | Sefydliadau iechyd | Cymunedau lleol | Grwpiau gwirfoddol