Parc rhanbarthol y cymoedd ar gyfer teuluoedd

Mynd ati heddiw i gynllunio eich yfory

Ydych chi erioed wedi sylwi bod yna benwythnos neu wyliau ysgol ar y gorwel o hyd, a’ch bod byth a hefyd yn ceisio meddwl am bethau i’w gwneud i ddifyrru’r plant?

Y newydd da yw ein bod ni, ym Mharc Rhanbarthol y Cymoedd, wedi gwneud y gwaith meddwl hwnnw ar eich rhan a’n bod, yn gyfleus iawn, wedi rhoi’r holl wybodaeth y gallai fod arnoch ei hangen mewn un man – ar y wefan hon. Croeso!

Mae cymaint o bethau i’w gweld a’u gwneud yn ein Canolfannau Darganfod (a llawer ohono am ddim) nes y byddwch yn ei chael yn anodd mynd iddynt i gyd. Ond byddem yn hoffi gwybod eich bod wedi rhoi cynnig go dda ar wneud hynny!

Gallech fynd i wylio byd natur, gan chwilio am adar, trychfilod neu anifeiliaid bach blewog a dysgu sut mae gofalu am y dirwedd yn un o’n parciau gwledig neu’n gwarchodfeydd natur. Gallech fynd â’r ci am dro, dringo coed neu sblasio mewn pyllau yn ein coetiroedd hynafol. Neu gallech hyd yn oed ddysgu ychydig am ein gwreiddiau rhyfeddol yn un o’n parciau treftadaeth thematig.

Mae pob un o’r Canolfannau Darganfod yn cynnig cyfleusterau parcio, mynediad ar gyfer cadeiriau gwthio, toiledau a chyfleusterau sy’n darparu diodydd a byrbrydau blasus. I weld rhestr lawn sy’n dangos pa gyfleusterau a gweithgareddau sydd i’w cael ymhle, ewch i oriel y Canolfannau Darganfod i ddechrau pori.

Fe welwch fod gennych gymaint i’w wneud nes y bydd eich diwrnodau, eich penwythnosau a’ch gwyliau yn llawn dop o weithgareddau mewn dim o dro!

Skip to content