Parc rhanbarthol y cymoedd ar gyfer byd natur

Dwlu ar dirwedd y cymoedd

Does dim dwywaith amdani – mae tirwedd y Cymoedd yn ysblennydd tu hwnt, ac mae’n rhyfeddol bod byd natur yn adennill ei afael ar y dirwedd ac yn dileu creithiau’r diwydiannau trwm a oedd yn nodweddu’r rhanbarth ar un adeg.

Rydym yn ffodus bod cymaint o harddwch o’n hamgylch: bryniau a phantiau, brigiadau creigiog, dolydd yr haf, corsydd gwlyb a fforestydd llawn nythod – mae’r cyfan yn ne Cymru! Ac ar wahân i’r tir mae yma fywyd gwyllt cyfoethog hefyd, o drychfilod ac adar i ymlusgiaid, amffibiaid a mamaliaid, ac mae pob un ohonynt yn chwarae eu rhan yn ecosystem ryfeddol tirwedd y Cymoedd, sydd wedi’i hadfer ac sy’n cynnal bywyd.

Mae ein Canolfannau Darganfod yn lleoedd delfrydol i ddod i adnabod y tir a’r amrywiaeth eang o greaduriaid sy’n byw arno, ar gyfer pobl chwilfrydig, teuluoedd neu’r bobl sy’n dwlu ar fyd natur!

Mae angen i bob un ohonom wneud ein gorau glas i helpu i adfer a gwarchod y Cymoedd o hyd. A gallwch chithau chwarae eich rhan!

Mae angen i bob un ohonom wneud ein gorau glas i helpu i adfer a gwarchod y Cymoedd o hyd. A gallwch chithau chwarae eich rhan!

Fel cymuned mae angen i ni: gysylltu mwy o blant a phobl ifanc yn eu harddegau â’u hamgylchedd naturiol; addysgu pobl am y cydbwysedd bregus ac am bwysigrwydd gofalu am fyd natur a bywyd gwyllt; cael mwy o bobl allan i’r awyr agored i brofi byd natur ar ei orau; a mynd ati i helpu i warchod byd natur drwy wirfoddoli yn un o’n parciau gwledig neu’n gwarchodfeydd natur. Neu porwch ar Dewis Cymru er mwyn dod o hyd i grwpiau o wirfoddolwyr y gallech ymuno â nhw.

Ym Mharc Rhanbarthol y Cymoedd rydym yn cydweithio â chynghorau lleol, grwpiau gwirfoddol ac unigolion i wella gwybodaeth pawb ynghylch sut y gallwn ofalu am ein Cymoedd. Rydym yn cymryd camau i sicrhau bod y parc yn fan lle gall anifeiliaid a phlanhigion ffynnu am amser hir i ddod.

Mae angen help ar fyd natur i ofalu amdano ei hun, ac wrth i bob un ohonom ganolbwyntio ar warchod ein bywyd gwyllt gallwn adael gwaddol byw ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol!

Skip to content