Hygyrchedd parc rhanbarthol y cymoedd

Croeso i bawb yn ddiwahân

Mae pob un o’r Canolfannau Darganfod wedi ymrwymo i sicrhau bod y rhanbarth Cymreig bendigedig hwn – ei fyd natur trawiadol, ei weithgareddau gwych a’i ddiwylliant diddorol – yn hygyrch i bawb. Felly, rydym wedi creu allwedd i’r cyfleusterau y gallwch eu gweld ym mhob un o’r Canolfannau Darganfod, gydag adran sy’n canolbwyntio ar hygyrchedd.

Mae gan rai o’n Canolfannau Darganfod leoedd parcio i bobl anabl, rampiau a drysau awtomatig fel bod defnyddwyr cadair olwyn yn gallu mynd i mewn iddynt – mae ganddynt hefyd doiledau i bobl anabl. Mae gan rai ohonynt gyfleusterau newid ar gyfer oedolion ag anghenion arbennig.

Mae’r llwybrau y nodwyd bod ganddynt wyneb solet yn addas i gadeiriau olwyn a chadeiriau gwthio a/neu’n fwy addas ar gyfer y sawl sy’n cael trafferth cerdded. Nodir hefyd bod y tir naill ai’n wastad yn gyffredinol neu’n fryniog, neu’n gymysgedd o’r ddau.

Mae gan rai o’r canolfannau ymwelwyr ddolenni clyw, mae rhai eraill yn cynnig rhai cyhoeddiadau mewn braille neu brint bras, ac os na allwch fynd i ganol byd natur gallwch wrando ar deithiau sain o amgylch rhai o’n safleoedd ni yma.

Gellir trefnu ymweliadau grŵp ar gyfer y sawl sydd ag anghenion penodol o ran hygyrchedd, drwy gysylltu’n uniongyrchol â phob un o’r Canolfannau Darganfod.

I gael rhagor o fanylion am y nodweddion hygyrch sydd i’w cael ym mhob Canolfan Ddarganfod, edrychwch ar yr Allwedd i Gyfleusterau sydd gan bob safle unigol ar ei dudalen proffil.

At hynny, os hoffech gysylltu â grwpiau gallu cymysg eraill yn ardal Parc Rhanbarthol y Cymoedd, cael gafael ar weithgareddau sydd wedi’u trefnu, neu ddod o hyd i sefydliadau a mudiadau sy’n arbenigo mewn cynorthwyo pobl ag anableddau neu anawsterau meddyliol neu gorfforol, gallwch ddechrau pori yma ar Dewis Cymru.

Yn rhan o’n hymrwymiad i wella, byddem yn hoffi cael adborth gennych ynghylch sut y gallwn wneud ein Cymoedd yn fwy hygyrch fyth. Felly, mae croeso i chi ddefnyddio ein ffurflen ymholiadau i gysylltu â ni.

Edrychwn ymlaen at eich gweld yn y parc cyn bo hir!

Skip to content