Presgripsiynu cymdeithasol gwyrdd: beth ydyw, pam y dylem roi sylw iddo, a sut mae’n effeithio ar bobl y Cymoedd

Mae presgripsiynu cymdeithasol gwyrdd yn fenter iechyd meddwl a lles sy’n helpu unigolion i gysylltu â gwasanaethau a gweithgareddau anfeddygol yn yr awyr agored — a’r llynedd, gwnaeth mwy o bobl yng nghymoedd de Cymru gymryd rhan nag erioed.

Mae’n cael ei alw hefyd yn ‘bresgripsiynu natur’, ac mae’r cysyniad wedi cael ei archwilio gan weithwyr meddygol proffesiynol ers dros 20 mlynedd — ond dim ond nawr mae ei wir werth yn dechrau cael ei wireddu’n llawn, gyda Chymoedd y De yn arwain y ffordd i Gymru. Mae un o’r Byrddau Iechyd yno bellach wrthi’n cyfeirio arian i feddygfeydd lleol i gefnogi atgyfeiriadau i brosiectau sy’n seiliedig ar natur.

Yn ôl Llywodraeth Cymru, mae Cymru wedi gweld cynnydd o dros 150% yn nifer y bobl sy’n elwa o bresgripsiynu cymdeithasol* — gyda mwy na 25,000 o bobl yn cymryd rhan mewn mentrau mewn parciau, gerddi cymunedol a gwarchodfeydd natur ledled Cymru yn 2020/21.

Yng nghymoedd de Cymru, mae’r mentrau hyn yn cael eu cefnogi gan Barc Rhanbarthol y Cymoedd (PRhC) — partneriaeth rhwng sefydliadau Cymreig, fel cynghorau ac elusennau, sy’n gweithio gyda natur i helpu’r rhanbarth i ffynnu’n amgylcheddol, yn gymdeithasol ac yn economaidd.

Wedi’u cynnal ar draws 12 safle Porth Darganfod PRhC, mae’r mentrau yn y Cymoedd yn cynnwys popeth o lwybrau cerdded i ddosbarthiadau ymarfer corff awyr agored, sesiynau byw yn y gwyllt a gweithgareddau cadwraeth — a dechreuodd y cyfan gyda phrosiect peilot yng Nghaerffili.

Gwelodd prosiect peilot Natur ar Bresgripsiwn Caerffili sefydliadau fel Ymddiriedolaeth Natur Gwent yn defnyddio Pyrth Darganfod ar gyfer gweithgareddau presgripsiynu natur fel adnabod rhywogaethau, plannu blodau gwyllt, bingo synhwyraidd a Geogelcio.

Roedd y peilot yn cefnogi unigolion ag anawsterau dysgu a phroblemau iechyd meddwl a atgyfeiriwyd gan feddygon teulu, cysylltwyr cymunedol ac ymarferwyr lles seicolegol.

Yn dilyn y peilot, aeth Ymddiriedolaeth Natur Gwent â’r fenter y tu hwnt i’r Cymoedd — gan gefnogi grŵp o unigolion o Grŵp Presgripsiynu Cymdeithasol Gogledd Sir Fynwy ar daith gerdded 6 milltir ym Mannau Brycheiniog — fel rhan o ‘Brosiect Iechyd Gwyllt’ newydd.

Ar ôl y sesiwn gyntaf hon, mae’r cyfranogwyr wedi dychwelyd i’r Prosiect Iechyd Gwyllt o wythnos i wythnos, gan adrodd am welliannau sylweddol i’w hiechyd meddwl a’u lles.

Dywedodd Ian Thomas, Uwch Swyddog y Prosiect Iechyd Gwyllt: “Ein nod yw gweld 1 o bob 4 person yn cymryd camau cadarnhaol dros natur erbyn 2040, ac o fewn yr un grŵp hwn yn unig, dwi eisoes yn gweld unigolion yn dod yn fwy ysgogol, wedi’u hintegreiddio’n gymdeithasol, ac yn ymserchu yn yr awyr agored  — ac mae hyn oll yn brofiad newydd iddyn nhw. Mae rhai o’r cyfranogwyr hyd yn oed wedi prynu eu hoffer eu hunain, gan fynegi ymrwymiad hirdymor i dreulio amser ym myd natur.

“Dengys ymchwil fod pob £1 a fuddsoddir mewn presgripsiynu cymdeithasol natur yn arbed £8 i’r GIG —  a gyda’r GIG ar ei liniau, dwi’n credu mai presgripsiynu natur yw’r allwedd i wella iechyd meddwl a lles pobl ymhell cyn iddyn nhw gael eu cyfeirio at y GIG.”

Mae Ymddiriedolaeth Natur Gwent hefyd yn ymgymryd â llawer o waith ‘hyfforddi’r hyfforddwr’ i helpu i ateb y galw am wasanaethau presgripsiynu natur — y mae disgwyl iddo gynyddu’n gyflym dros y blynyddoedd nesaf wrth i’w fanteision gael eu cydnabod yn ehangach.

Ychwanegodd Jules Davies, Cynullydd Hamdden a Lles Parc Rhanbarthol y Cymoedd: “Mae manteision presgripsiynu cymdeithasol gwyrdd yn ddiddiwedd: mae’n helpu i wella hyder, hwyliau, hunan-barch, a chymhelliant — heb sôn am wella pryder ac iselder mewn llawer o achosion.

“Profwyd hefyd ei fod o fudd i leihau pwysedd gwaed, diabetes, a chyflyrau’r galon i enwi dim ond ychydig o gyflyrau iechyd corfforol — yn ogystal â rhoi hwb i’r system imiwnedd, gan helpu i atal llawer o gyflyrau iechyd cyn iddyn nhw ddigwydd, hyd yn oed.

“Yn ei dro, gall hyn leihau yn sylweddol faint o feddyginiaeth y mae angen i unigolion ei chymryd — ac mae weithiau’n dileu’r angen am feddyginiaeth neu atgyfeiriad Meddyg Teulu — a dylem fod yn hynod falch o’r ffaith bod y Cymoedd yn arwain y ffordd yn y maes hwn, yng Nghymru a’r DU ehangach.”

Yn fwy na hynny, nid gweithwyr gofal iechyd proffesiynol a grwpiau cymunedol yn unig sy’n gallu presgripsiynu natur —  gall unigolion atgyfeirio eu hunain trwy fynd ati i fynychu gweithgareddau natur o’u dewis ac sy’n addas i’w hanghenion.

I ddod o hyd i’ch Porth Darganfod agosaf ac archwilio’r cyfleoedd am ddim sydd ar gael sy’n agos atoch chi, ewch i: valleysregionalpark.wales/discovery-gateways/

Newyddion a straeon diweddaraf
Skip to content