Canmol Gwarcheidwaid amgylcheddol Cymoedd y De

Mae Parc Rhanbarthol y Cymoedd a Groundwork Cymru wedi dathlu’r ffaith bod eu rhwydwaith o wirfoddolwyr cymunedol – y Gwarcheidwaid – wedi cwblhau bron i 10,000* o oriau o waith gwirfoddol dros y tair blynedd diwethaf.

I ddathlu’r cyflawniad hwn — yn ogystal â’r 399,497 metr sgwâr o dir sydd wedi’u gwella gan y gwirfoddolwyr gwyrdd* — cynhaliodd Parc Rhanbarthol y Cymoedd ddigwyddiad arbennig.

Cynhaliwyd y digwyddiad yn Nhŷ Bryngarw ym Mhen-y-bont ar Ogwr, ac roedd yn gyfle i ddathlu cyfraniad gwirfoddolwyr Cynllun Gwarcheidwaid Parc Rhanbarthol y Cymoedd, a drefnwyd gan Groundwork Cymru — sydd wedi ymrwymo i ymgysylltu ag amgylcheddau lleol naturiol Cymoedd y De, eu gwarchod a’u datblygu.

Ers 2020, mae’r Gwarcheidwaid wedi gwneud pob math o waith gan gynnwys adfer pyllau, adeiladu pontydd, cynnal a chadw llwybrau, a chreu a diogelu cynefinoedd bywyd gwyllt.

Trwy’r gweithgareddau hyn, mae’r Cynllun wedi cynorthwyo cyfranogwyr i ddatblygu sgiliau cadwraeth, llythrennedd eco, a hyder, gan wella eu sgiliau cyflogadwyedd wrth helpu i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a natur. Hefyd, mae’r gwaith gwirfoddol wedi cynyddu cyfradd lles yr holl gyfranogwyr 78.5%*.

Yn y digwyddiad yr wythnos hon, fe ddaeth gwirfoddolwyr, rhanddeiliaid ac unigolion pwysig at ei gilydd yn Nhŷ Bryngarw i ddathlu’r cyflawniadau hyn.

Gallwch ddysgu mwy am y Cynllun, ei hanes a’i wirfoddolwyr drwy ddarllen Llyfryn Dathlu’r Gwarcheidwaid neu, trwy gwylio’r fideo yma i glywed gan rai o’r gwirfoddolwyr a Swyddogion Prosiect.

*Ystadegau wedi’u cymryd o adroddiadau chwarterol Groundwork Cymru, yn ymwneud â chynllun peilot y Cynllun Gwarcheidwaid yn 2020, gwaith a gafodd ei wneud yn Discovery Gateways, sesiynau Wellies in the Woods a’r rhaglen Big Bocs Bwyd tan fis Rhagfyr 2022.
Newyddion a straeon diweddaraf
Skip to content