Pennod newydd yn stori Cymoedd y De

Ers sefydlu partneriaeth Parc Rhanbarthol y Cymoedd yn 2020, mae ymdrechion cyfunol unigolion a sefydliadau ar draws Cymoedd y De wedi dod â thon o newid cadarnhaol – yn gymdeithasol, yn economaidd ac yn amgylcheddol.

Daeth 12 o barciau a mannau gwyrdd rhagorol ar draws y Cymoedd yn ‘Pyrth Darganfod’  – mannau cychwyn ar gyfer darganfod tirwedd a threftadaeth Cymoedd De Cymru. Diolch i Barc Rhanbarthol y Cymoedd, cafodd bron i £6m o gyllid Llywodraeth Cymru ei roi i’r deuddeg safle hyn, gan ganiatáu i bob un ychwanegu at eu cynigion i ymgysylltu cymunedau lleol yn well â’r rhyfeddodau naturiol a’r cyfoeth diwylliannol ar eu stepen drws.

O ddatblygu llwybrau beicio teulu hygyrch ym Mharc Gwledig Dyffryn Dâr i ganolfan waith anghysbell yn Llyn Llech Owain ac adeiladau parciau chwarae plant newydd a gosodiadau chwarae naturiol ym Mharc Bryn Bach a Pharc Gwledig Bryngarw – Llawrlwytho ein llyfryn digidol er mwyn darganfod mwy am gyflawniadau pob Porth Darganfod ar hyn sy’n digwydd nesaf ym Mharc Rhanbarthol y Cymoedd a’i rwydwaith Porth Darganfod.

Newyddion a straeon diweddaraf
Skip to content