Parc rhanbarthol y cymoedd ar gyfer gwirfoddolwyr

Gall pob un ohonom gymryd rhan

Mae rhai o olygfeydd mwyaf trawiadol Cymru a’r DU i’w gweld ym Mharc Rhanbarthol y Cymoedd. Mae llethrau llwm ac anial ein gorffennol diwydiannol yn wyrdd unwaith eto ar ôl i gyfoeth naturiol gael ei adfer iddynt. Mewn gwirionedd, maent mor hardd erbyn hyn fel ei bod yn anodd amgyffred yr heriau y bu’n rhaid i’r amgylchedd eu goddef. Ond mae llawer mwy o waith i’w wneud.

Rydym am sicrhau bod y gwaith hwnnw’n parhau, drwy adfer ein tirweddau a gofalu amdanynt yn awr ac yn y dyfodol fel eu bod yn dal i hybu ein hiechyd a’n lles a’u bod hefyd yn dal i roi mwynhad i fwy o bobl nag erioed o’r blaen. At hynny, mae’n bwysig bod pob un ohonom yn gofalu am ein cymunedau er mwyn sicrhau eu bod nhw hefyd yn ffynnu.

Mae gwirfoddoli’n cynnig cyfleoedd ardderchog i gyflawni hynny. Mae angen pobl o bob oed a gallu, a fydd yn cael cymaint o fudd o wirfoddoli!

Gallech gadw’r safleoedd sydd ym Mharc Rhanbarthol y Cymoedd yn daclus drwy helpu gyda gwaith garddio neu gynnal a chadw; efallai yr hoffech warchod ei gynefin naturiol bregus drwy wirfoddoli yn un o’n parciau gwledig neu’n gwarchodfeydd natur; neu efallai y byddai’n well gennych ofalu am gwsmeriaid mewn oriel neu amgueddfa neu ddarparu lluniaeth yn un o’r caffis neu’r canolfannau ymwelwyr.

Mae manteision gwirfoddoli’n amrywiol iawn. Mae’n fodd i gwrdd â phobl newydd, gwneud ffrindiau newydd a rhyngweithio gymaint ag a fynnwch â phobl eraill. Byddwch hefyd yn dysgu sgiliau newydd wrth i’r Canolfannau Darganfod roi i chi’r holl hyfforddiant y bydd arnoch ei angen, a byddwch yn gallu mwynhau’r bodlonrwydd a ddaw o wybod eich bod yn cyfrannu at sicrhau ffyniant y parc a chymunedau lleol.

P’un a ydych yn chwilio am reswm i fynd allan o’r tŷ, bod angen i chi wella eich CV, eich bod yn awyddus i warchod ein hamgylchedd neu’ch bod, yn syml iawn, am gael mwy o hwyl – gwirfoddoli ym Mharc Rhanbarthol y Cymoedd, heb os, yw’r ateb.

I gael gwybod am y cyfleoedd sydd ar gael yn ein Cymoedd i wirfoddoli, ewch i dudalen oriel y Canolfannau Darganfod a chysylltwch â’r safle sy’n apelio fwyaf atoch.

Skip to content