Pecyn cymorth ar gyfer partneriaid Parc Rhanbarthol y Cymoedd

Dyma gyflwyno ein pecyn cymorth newydd sbon — dogfen ddefnyddiol iawn sydd wedi’i chynllunio i’ch helpu CHI, ein rhwydwaith o bartneriaid, i ledaenu negeseuon Parc Rhanbarthol y Cymoedd ar draws eich sianeli.

Mae’r cyfryngau cymdeithasol yn lle gwych i rannu newyddion cadarnhaol am bartneriaeth y Parc — o lwyddiant ein prosiectau i’r ffyrdd y gall cymunedau lleol ymuno â’r genhadaeth o greu Cymoedd De Cymru sy’n wyrddach ac yn iachach.

A diolch i becyn cymorth rhanddeiliaid Parc Rhanbarthol y Cymoedd, gallwch wneud hynny — gan gyfoethogi canlyniadau mwy cyffredinol eich sianeli ar yr un pryd. Mae’n cynnwys yr holl bethau hanfodol sydd eu hangen arnoch, gan gynnwys:

  • Banc delweddau – casgliad o ddelweddau sydd heb hawlfraint y mae modd eu lawrlwytho i’w defnyddio ar eich sianeli, ynghyd ag awgrymiadau da ar sut i wneud y defnydd gorau o ddelweddau ar y cyfryngau cymdeithasol.
  • Capsiynau ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol – syniadau a negeseuon wedi’u drafftio ymlaen llaw i symleiddio eich proses creu cynnwys (ac arbed amser i chi!)
  • Calendr Tymhorol — manylion themâu tymhorol allweddol a diwrnodau codi ymwybyddiaeth i wella eich ymgysylltiad.

 

Mae’r pecyn cymorth ar gael yma yn y Gymraeg neu yma yn Saesneg.

Rydyn ni’n ddiolchgar am eich cyfraniad cyson — diolch am eich cefnogaeth barhaus a’ch ymroddiad fel aelodau o bartneriaeth Parc Rhanbarthol y Cymoedd.

Newyddion a straeon diweddaraf
Skip to content