Beth sy’n arbennig am fod yn greadigol yn yr ardal lle rydych chi’n byw?

Mae Caerdydd Creadigol yn gweithio mewn partneriaeth â Chyngor Celfyddydau Cymru i gomisiynu ymarferydd creadigol o bob un o’r ardaloedd awdurdodau lleol sy’n rhan o Brifddinas-Ranbarth Caerdydd (Blaenau Gwent; Pen-y-bont ar Ogwr; Caerffili; Merthyr Tudful; Sir Fynwy; Casnewydd; Rhondda Cynon Taf; Torfaen; a Bro Morgannwg) i gynhyrchu darn o waith yr un sy’n mynegi’r hyn y mae’n ei olygu i fod yn greadigol yn yr ardal honno.

Mae ein lleoedd creadigol yn gomisiwn â thâl (£1000 yr ymarferydd) ar gyfer pobl greadigol hunangyflogedig i ddathlu ble rydych chi’n byw ac yn gweithio.

Rydym am weithio gyda chi i ddatblygu ymhellach stori cymuned greadigol sy’n tyfu, ac sydd â chysylltiad cynyddol, ar draws y rhanbarth.

Gallai’r cynnyrch creadigol fod yn; berfformiad o ddarn newydd o ysgrifennu, animeiddiad, ffilm fer, gwaith celf digidol, gwrthrych a grëwyd ac a ffotograffwyd, darn o gerddoriaeth wedi’i gosod dros ddelweddau. Enghreifftiau yw’r rhain, felly peidiwch â gadael iddyn nhw gyfyngu ar eich dychymyg.

Cewch chi adrodd y stori…

Gwnewch gais gyda’ch syniad yma: http://creativecardiff.org.uk/cy/ein-lle-creadigol-map-stori erbyn dydd Llun, 8 Chwefror 2021 am hanner dydd.

Cysylltwch â ni trwy ebost neu ffôn (02922 511597) os oes gennych unrhyw gwestiynau am eich syniad neu os hoffech gael unrhyw gymorth gyda’ch cais.

Taflen sain: http://bit.ly/taflensaineinllecreadigol

Newyddion a straeon diweddaraf
Skip to content