Diweddariad Rhaglen Gwarcheidwaid Parc Rhanbarthol y Cymoedd

Ar ôl adolygu’r cyfyngiadau Covid-19 diweddaraf, dyma gadarnhau y bydd Cynllun Gwarcheidwaid Parc Rhanbarthol y Cymoedd yn parhau drwy’r rhanbarth, a hynny drwy gytundeb â rheolwyr y safleoedd. Bydd y staff yn glynu’n dynn wrth ganllawiau Llywodraeth Cymru sy’n ymwneud â chadw pellter cymdeithasol, asesiadau risg, golchi dwylo a diheintio. Os oes cyfyngiadau symud lleol mewn grym, dim ond pobl o’r tu mewn i’r awdurdod lleol gaiff gymryd rhan yn y gweithgareddau, a bydd disgwyl i bawb ddilyn y mesurau diogelwch sydd mewn grym. Credwn ei bod yn hollbwysig ein bod yn parhau â’n rhaglen weithgareddau ar hyn o bryd er mwyn sicrhau lles ein preswylwyr lleol. Rydym yn cadw golwg fanwl ar y sefyllfa a byddwn yn ymateb i unrhyw newidiadau a allai ddod i’n rhan er mwyn cadw ein staff a’n hymwelwyr yn ddiogel. Diolchwn ichi ar ran y tîm i gyd.

Newyddion a straeon diweddaraf
Skip to content