Mae Parc Rhanbarthol y Cymoedd a Groundwork Cymru wedi dathlu’r ffaith bod eu rhwydwaith o wirfoddolwyr cymunedol – y Gwarcheidwaid – wedi cwblhau bron i 10,000* o oriau o waith gwirfoddol dros y tair blynedd diwethaf.
I ddathlu’r cyflawniad hwn — yn ogystal â’r 399,497 metr sgwâr o dir sydd wedi’u gwella gan y gwirfoddolwyr gwyrdd* —
cynhaliodd Parc Rhanbarthol y Cymoedd ddigwyddiad arbennig.
Mae PRhC yn dod â rhwydwaith o ddeuddeg parc trefol a gwledig a gwarchodfeydd natur at ei gilydd – a elwir hefyd yn ‘Byrth Darganfod’ – fel rhan o brosiect i sefydlu parc rhanbarthol parhaol ar gyfer Cymoedd De Cymru. Mae parciau rhanbarthol i’w gweld yn y DU a ledled y byd, gan roi cyfleoedd […]
Rydyn ni mor falch o faint mae Cynllun Gwarcheidwaid Parc Rhanbarthol y Cymoedd — a gyflwynir gan Groundwork Wales — wedi’i gyflawni ers mis Mai 2021.
Ddydd Iau, 2 Rhagfyr, cafodd canolfan addysg a lles newydd sbon ei hagor yn swyddogol gan y Dirprwy Weinidog dros y Celfyddydau a Chwaraeon, Dawn Bowden AS, ym Mharc Gwledig Bryngarw.