Sicrhau rhagor o gyllid i Barc Rhanbarthol y Cymoedd

Mae Parc Rhanbarthol y Cymoedd newydd gael bron i filiwn o bunnoedd ychwanegol i gefnogi’r gwaith parhaol i ddatblygu dull mwy rhanbarthol o reoli ac o hyrwyddo ein tirwedd ysblennydd.

Gan ddefnyddio’r un dull ar gyfer y Cymoedd i gyd, nod Parc Rhanbarthol y Cymoedd yw cysylltu pobl a llefydd, ac ystyriwn iechyd y wlad, y bobl a’r economi ym mhopeth a wnawn. Ein nod yw sicrhau;

  • bod tirwedd y Cymoedd yn cael ei chydnabod am ei hansawdd drwy ymrwymo i hyrwyddo ac i reoli’r rhanbarth mewn ffordd gydgysylltiedig;
  • bod pobl yn dod i werthfawrogi tirwedd y Cymoedd unwaith eto er eu lles nhw eu hunain. Rydym am i’r Cymoedd fod yn rhywle lle gallant ymarfer corff, gweithio, ymlacio a mwynhau byd natur. Rydym yn awyddus i bobl fwynhau’r celfyddydau a threftadaeth yma, ac i gael addysg; a sicrhau;
  • bod tirwedd y Cymoedd yn sail i economi lleol gwydn, sy’n cefnogi busnesau, mentrau cymunedol a’r gwaith i ddatblygu sgiliau a chyfleoedd i ddysgu.

Mae 13 o Awdurdodau Lleol ledled De Cymru, o Dorfaen yn y dwyrain i Sir Gaerfyrddin yn y gorllewin, yn rhan o bartneriaeth Parc Rhanbarthol y Cymoedd. Mae pedwar bwrdd iechyd y rhanbarth hefyd wedi’u cynnwys yn y bartneriaeth, yn ogystal â Chyfoeth Naturiol Cymru, Llywodraeth Cymru a llawer o randdeiliaid eraill o’r trydydd sector ac o’r sector cyhoeddus. Daw’r arian ychwanegol hwn i law drwy Gronfa Gymdeithasol Ewrop, a bydd pwyslais arbennig ar ddiwygio gwasanaethau cyhoeddus a gweithio’n rhanbarthol. Mae’n ychwanegu at y £650,000 o gyllid Llywodraeth Cymru a ddyfarnwyd drwy’r Tasglu ar gyfer Cymoedd y De ynghynt.

Gyda’r cyllid hwn, bydd partneriaid Parc Rhanbarthol y Cymoedd yn cydweithio i gefnogi;

  • Dull rhanbarthol tymor hir o reoli tirwedd y Cymoedd;
  • Defnyddio rhagor ar ein mannau gwyrdd i hyrwyddo llesiant, a hynny drwy ddewisiadau personol a phresgripsiynu cymdeithasol;
  • Denu rhagor o ymwelwyr a’u cael i wario rhagor yng nghyrchfannau’r Cymoedd;
  • Gwella partneriaethau ymhob sector a chyda chymunedau, gan wella sgiliau ac adeiladu capasiti;
  • Dylanwadu ar bolisïau’r sector cyhoeddus er mwyn adlewyrchu anghenion cymunedau’r Cymoedd a’r gwaith tymor hir i wella’r dirwedd ymhob cwr o’r Cymoedd.

Meddai Phil Lewis, Arweinydd y Parc, “Mae hwn yn gyfle gwych i barhau i ddatblygu’r dull cyffredin hwn o ddefnyddio ein mannau gwyrdd i gefnogi llesiant ein cymunedau a’n tirwedd ledled y Cymoedd. Mae’n gyfle gwych hefyd i brofi ffyrdd newydd o weithio y bydd modd eu hefelychu ar draws y rhanbarth”.

Gallwch ddarllen am y datblygiadau diweddaraf ac am y gwahanol ffyrdd y gallwch gymryd rhan yng ngwaith y Parc drwy ein sianeli ar y cyfryngau cymdeithasol.

Newyddion a straeon diweddaraf
Skip to content