Ailadeiladu’r gymuned leol i’n Cymoedd

Wrth ymateb i bandemig COVID-19, mae’r stryd fawr yng Nghymru wedi denu cryn dipyn o sylw yn y newyddion dros y flwyddyn ddiwethaf o ganlyniad i bryderon ynghylch dyfodol canol ein trefi. Serch yr effaith economaidd y mae eleni wedi’i chael ar ein cymunedau, mae pobl yn ymweld â’u siopau lleol i gael hanfodion bywyd ac mae cynghorau’n parhau â’u dyletswyddau bob dydd, e.e. cynnal a chadw ymylon ffyrdd a chylchfannau. Rydym fel cenedl, gwlad ac yn fyd-eang wedi dysgu gwir werth gofalu am ein cymunedau ac am ein hiechyd meddyliol a chorfforol ni ein hunain.

Rhan o’n heconomi sylfaenol yw’r gwasanaethau a’r nwyddau sylfaenol yr ydym ni gyd yn dibynnu arnynt, megis bwyd, tai a manwerthwyr ar y stryd fawr. Dros y flwyddyn ddiwethaf a chyn hynny, rydym wedi bod yn holi sut olwg fyddai ar ein cymoedd petaem yn barotach i gefnogi’r gwasanaethau hyn yn lleol. Sut y gallem ni helpu rhagor o fusnesau lleol i ffynnu? Petaent yn ffynnu, a fyddai llai o bobl yn cymudo i’r dinasoedd? Hefyd, o ganlyniad hynny, a fyddai rhagor ohonom yn treulio amser â phobl yn ein cymdogaethau ein hunain?

Mae Cronfa Economi Sylfaenol Llywodraeth Cymru yn cefnogi cyfres o brosiectau sy’n datblygu’r economi sylfaenol. Yn rhan o’r rhaglen, mae RHA Wales Group Ltd. wedi bod yn adolygu’u polisïau a’u gweithdrefnau mewnol i gefnogi’r economi lleol yn well.

Wrth drafod y cyflawniadau, meddai Matthew Reardon, Swyddog yr Economi Sylfaenol yn RHA Wales:

“Mae’r gwaith hwn wedi caniatáu inni greu polisïau a phrotocolau newydd ar lefel uchel i gefnogi’r Economi Sylfaenol. Ar ôl cytuno ar y rhain, drwy sicrhau bod gennym ni reolaeth ar lefel weithredol ac ar lefel bwrdd dros bethau, a thrwy sicrhau ymrwymiad drwy’r sefydliad, gallwn bellach estyn llaw i’n cymunedau yn hyderus ac yn dryloyw, a bwriadwn gydweithio â nhw unwaith eto pan fydd yn ddiogel inni wneud hynny”.

Dafliad carreg i ffwrdd, yn Nhreherbert, fe ddowch o hyd i Rhondda Skyline. Prosiect yw hwn a gynlluniwyd er mwyn creu sefydliad cymunedol newydd a rhoi hwb i fusnesau bychain yn seiliedig ar asedau naturiol lleol.

Mewn sgwrs â Pharc Rhanbarthol y Cymoedd, meddai Mel Newton, Rheolwr Prosiect Rhondda Skyline:

“Mae cymunedau yn y Rhondda yn wydn iawn, felly byddai sicrhau’r sylfaen angenrheidiol ar gyfer cyfleoedd busnes a hyfforddi yn nes at adref yn golygu llawer i bobl. Mae llawer yn cymudo i’r gwaith ond dychmygwch sut y gallai cymunedau edrych pe na bai angen i gynifer o bobl wneud hynny? Mae hyn yn ymwneud â balchder a hunaniaeth leol. Nid yr agwedd ariannol ar yr economi yw’r unig ystyriaeth”.

Mae Parc Rhanbarthol y Cymoedd yn gweithio ar draws pob sector i ddatblygu agweddau ar yr economi sylfaenol yn ein cymoedd, gan gynnwys tyfu bwyd yn ein cymunedau, sicrhau bod pobl yn gallu mwynhau byd natur am resymau hamdden ac iechyd, a sicrhau dyfodol mwy gwyrdd i ganol ein trefi. I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â’n Cynullydd Cymunedau a Menter drwy e-bostio: valleysregionalpark@bridgend.gov.uk

Ariennir y prosiect hwn gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru a chan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig. I gael rhagor o wybodaeth am Barc Rhanbarthol y Cymoedd, ewch i https://parcrhanbartholycymoedd.cymru/

 

 

Newyddion a straeon diweddaraf
Skip to content