Pum Safle Canolfannau Darganfod yn cael eu henwi ymysg mannau gwyrdd gorau’r wlad

Mae pump o Ganolfannau Darganfod Parc Rhanbarthol y Cymoedd wedi cyflawni statws Gwobr y Faner Werdd – marc ansawdd rhyngwladol parc neu fan gwyrdd.

Bydd baneri yn hedfan ym Mharc Gwledig Bryngarw, Coedwig Cwmcarn, Parc Cyfarthfa, Parc Bryn Bach a Pharc Ynysangharad i gydnabod eu cyfleusterau rhagorol i ymwelwyr, safonau amgylcheddol uchel, ac ymrwymiad i gyflwyno man gwyrdd o ansawdd gwych.

Mae’r Canolfannau Darganfod yn fwy na pharciau, maent yn ‘gerrig camu’ i dirwedd ehangach y Cymoedd, yn rhoi cyfle i ymwelwyr ddysgu am y dreftadaeth naturiol a diwylliannol gyfoethog, profi’r dirwedd eiconig gyda’i newidiadau tymhorol ac ailgysylltu â natur ar stepen y drws, gyda’r holl fuddion a ddaw yn ei sgil.

Dywedodd Phil Lewis, sydd yn arwain Parc Rhanbarthol y Cymoedd:
“Mae’n rhagorol gweld ein Canolfannau Darganfod yn cael eu cydnabod am ragoriaeth unwaith eto yng Ngwobrau’r Faner Werdd eleni. Rydym wedi gweld pwysigrwydd hanfodol mannau o’r fath i’n hiechyd a’n lles yn gliriach nag erioed o’r blaen, ac rydym yn eithriadol o lwcus yn y Cymoedd bod y tirweddau naturiol anhygoel hyn ar ein stepen drws, a bod y Canolfannau eithriadol yn ein helpu i gysylltu â nhw. Mae’r wobr unwaith eto yn dangos gwaith caled pawb sydd yn gysylltiedig a’r ymroddiad i gyflawni profiadau pwysig ac o ansawdd uchel i ymwelwyr. Da iawn bawb.”

Eleni, mae 224 o barciau a mannau gwyrdd ar draws y wlad wedi cael Gwobr flaenllaw y Faner Werdd a Gwobr Gymunedol y Faner Werdd – o barciau gwledig i erddi ffurfiol, i randiroedd, coetir a mynwentydd.

Cyflwynir rhaglen Gwobr y Faner Werdd yng Nghymru gan yr elusen amgylcheddol Cadwch Gymru’n Daclus, gyda chymorth gan Lywodraeth Cymru. Gwirfoddolodd arbenigwyr mannau gwyrdd annibynnol eu hamser ar ddechrau’r hydref i feirniadu safleoedd ymgeiswyr a’u hasesu yn erbyn wyth o feini prawf llym, yn cynnwys bioamrywiaeth, glendid, rheolaeth amgylcheddol, a chyfranogiad cymunedol.

Dywedodd Lucy Prisk, Cydlynydd y Faner Werdd yn Cadwch Gymru’n Daclus:

“Mae’r pandemig wedi dangos pa mor bwysig yw parciau a mannau gwyrdd o ansawdd uchel i’n cymunedau. I lawer ohonom, maent wedi bod yn hafan ar stepen y drws ac o fudd i’n hiechyd a’n lles.

“Mae’r pum baner sydd yn hedfan ym Mharc Rhanbarthol y Cymoedd eleni yn dystiolaeth o waith caled staff a gwirfoddolwyr sydd wedi cynnal safonau rhagorol o dan amgylchiadau heriol iawn. Hoffwn eu llongyfarch a diolch iddynt i gyd am eu hymrwymiad eithriadol.”

Mae rhestr lawn o enillwyr y wobr ar gael ar wefan Cadwch Gymru’n Daclus
www.keepwalestidy.cymru

Newyddion a straeon diweddaraf
Skip to content