Mae gwefan newydd ac ymgyrch ar gyfryngau cymdeithasol wedi’u lansio er mwyn hyrwyddo’r Cymoedd fel Parc Rhanbarthol. Yn dilyn llawer o waith ymgysylltu â chymunedau, dan arweiniad y Tasglu ar gyfer Cymoedd y De, mae Parc Rhanbarthol y Cymoedd yn cael ei ddatblygu drwy bartneriaeth sy’n cynnwys 13 o awdurdodau lleol ac sy’n cael ei chefnogi gan Lywodraeth Cymru. Mae’r rhaglen yn cydnabod y bydd tirwedd y Cymoedd yn gweithio gydag unigolion, cymunedau, sefydliadau, mudiadau a busnesau i sicrhau lles amgylcheddol, economaidd a chymdeithasol.
Mae’r rhanbarth a arferai gael ei alw’n Faes Glo De Cymru, ac sy’n ymestyn o Gaerfyrddin i Bont-y-pŵl ac o Ben-y-bont ar Ogwr i Ferthyr Tudful, wedi’i sefydlu yn Barc Rhanbarthol y Cymoedd er mwyn manteisio i’r eithaf ar botensial cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol asedau’r Cymoedd o ran treftadaeth naturiol a diwylliannol. Mae deg o safleoedd sy’n boblogaidd ymhlith trigolion ac ymwelwyr wedi cael eu dynodi’n Ganolfannau Darganfod. Maent wedi’u gwasgaru ar draws y Cymoedd ac maent yn cynnwys rhai o olygfeydd a thirweddau mwyaf dramatig y DU. Bydd y Canolfannau Darganfod yn galluogi pawb sy’n byw yn ne Cymru, sy’n gweithio yno neu sy’n ymweld â’r rhanbarth i wneud yn fawr o’i ddiwylliant, ei amgylchedd naturiol a’i dirwedd gyfoethog.
Yn unol â’r Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a’r cynllun ‘Ein Cymoedd, Ein Dyfodol’, bwriad y fenter yw annog ymdeimlad o falchder ac o ddarganfod yn y Cymoedd. Mae nodau’r cynllun fel a ganlyn: hyrwyddo mannau gwyrdd o safon er mwyn gwella iechyd a lles; cefnogi cymunedau lleol a busnesau lleol; cymell cyfleoedd economaidd o amgylch y dirwedd; yn ogystal â chefnogi mentrau sy’n ymwneud â’r newid yn yr hinsawdd a gwella bioamrywiaeth a chysylltedd cynefinoedd.
Mae’r rhaglen a gaiff ei chefnogi gan Lywodraeth Cymru yn cael ei goruchwylio gan fwrdd sy’n cynnwys arweinwyr 13 o awdurdodau lleol, sef Abertawe; Blaenau Gwent; Bro Morgannwg; Caerdydd; Caerffili; Casnewydd; Castell-nedd Port Talbot; Merthyr Tudful; Pen-y-bont ar Ogwr; Rhondda Cynon Taf; Sir Fynwy;
Sir Gaerfyrddin; a Thorfaen.
Meddai Phil Lewis, Arweinydd Rhaglen Parc Rhanbarthol y Cymoedd, “Rydym yn ystyried sut y gall cymunedau a busnesau yn yr ardal ôl-ddiwydiannol hon gydweithredu er mwyn gweithio gyda’n hasedau naturiol a diwylliannol gwych a manteisio arnynt. Bydd y rhaglen yn ysbrydoli newidiadau cadarnhaol i’r modd yr ydym yn gofalu am dirwedd ein Cymoedd. Bydd yn helpu pobl i gysylltu ag ystod eang o weithgareddau awyr agored er mwyn eu hiechyd a’u lles. Bydd yn cefnogi cymunedau wrth iddynt archwilio syniadau a mentrau newydd. Y nod yn y pen draw yw creu ardal sy’n gyfoethog nid yn unig oherwydd ei hasedau naturiol ond hefyd oherwydd y balchder cenedlaethol y mae’n ei ennyn.”
Mae rhagor o wybodaeth am Barc Rhanbarthol y Cymoedd a phob un o’r Canolfannau Darganfod, gan gynnwys eu lleoliadau a’u horiau agor, i’w gweld ar wefan Parc Rhanbarthol y Cymoedd ac ar ei sianelau ar gyfryngau cymdeithasol @lovethevalleys.