Parc Rhanbarthol y Cymoedd yn Cyhoeddi Adroddiad Llawn ar Arolwg Gofodau Gwyrdd

Rhwng mis Gorffennaf a mis Medi 2020, cynhaliodd Parc Rhanbarthol y Cymoedd arolwg gofodau gwyrdd i ganfod pwysigrwydd ‘gofodau gwyrdd’ naturiol yn yr awyr agored. Dangosodd yr wybodaeth pa mor bwysig yw gofodau gwyrdd lleol i bobl ac os oedd hyn wedi newid fel canlyniad i argyfwng Covid-19. Cysylltwyd â phobl ym mhob awdurdod lleol ar draws rhanbarth y Cymoedd, gyda dros 400 o unigolion yn llenwi’r arolwg llawn a gyda dros 1000 ymateb i rai cwestiynau unigol.

Cafodd adroddiad llawn ei baratoi yn dogfennu canfyddiadau’r arolwg (cliciwch ar y ddolen islaw i’w lawrlwytho) ac mae gwybodaeth bellach ar gael gan Dan Lock, Cynullydd Tirlun, Diwylliant a Hunaniaeth yn valleysregionalpark@bridgend.gov.uk

INFOGRAFFIG GAFODAU GWYRDD VRP

Arolwg o Fannau Agored a Gwyrdd Parc Rhanbarthol y Cymoedd

Newyddion a straeon diweddaraf
Skip to content