Ar yr 8fed o Ionawr, cyhoeddodd y Prif Weinidog y bydd Cymru ar lefel rhybudd 4 y Coronafeirws am 3 wythnos arall. Mae hyn yn golygu y bydd y cyfyngiadau presennol yn ein Parthau Darganfod ac mewn parciau a mannau gwyrdd eraill yn parhau i fod mewn grym. Yn ogystal â hynny, ni fydd y gweithgareddau y bwriadwyd eu cynnal gyda Cheidwaid Parc Rhanbarthol y Cymoedd yn digwydd cyn i’r Llywodraeth adolygu’r sefyllfa nesaf ar y cynharaf.
Mae’r rhan fwyaf o’r mannau gwyrdd agored yn dal i fod ar agor ac maent wedi rhoi cyfle i nifer ohonom ni fynd allan i wneud ymarfer corff. Mae ymarfer corff yn bwysig er lles ein hiechyd corfforol a meddyliol, ac rydym yn ffodus yn y Cymoedd fod y mannau gwyrdd hyn yn agos at ein cartrefi. Gallwn felly ddefnyddio’r mannau hyn a glynu wrth y rheol y dylai ymarfer corff ddechrau a gorffen yn ein cartref.
Os ydych yn ymweld ag un o’r Pyrth Darganfod, ewch i wefan a sianeli cyfryngau cymdeithasol y safle penodol hwnnw i weld beth yw’r sefyllfa cyn ichi adael eich cartref. Mae’n bosib na fydd rhai o’r cyfleusterau neu’r gweithgareddau yn y parciau hyn ar gael. Os ydych yn defnyddio parc neu fan gwyrdd lleol, dilynwch y canllawiau, parchwch eraill a chadwch yn ddiogel.
Mae PRhC yn dod â rhwydwaith o ddeuddeg parc trefol a gwledig a gwarchodfeydd natur at ei gilydd – a elwir hefyd yn ‘Byrth Darganfod’ – fel rhan o brosiect i sefydlu parc rhanbarthol parhaol ar gyfer Cymoedd De Cymru. Mae parciau rhanbarthol i’w gweld yn y DU a ledled y byd, gan roi cyfleoedd […]
Rydyn ni mor falch o faint mae Cynllun Gwarcheidwaid Parc Rhanbarthol y Cymoedd — a gyflwynir gan Groundwork Wales — wedi’i gyflawni ers mis Mai 2021.
Ddydd Iau, 2 Rhagfyr, cafodd canolfan addysg a lles newydd sbon ei hagor yn swyddogol gan y Dirprwy Weinidog dros y Celfyddydau a Chwaraeon, Dawn Bowden AS, ym Mharc Gwledig Bryngarw.
Mae’n bleser gan Barc Rhanbarthol y Cymoedd gyhoeddi ei fod wedi dyfarnu contract Cynllun Gwarcheidwaid Parc Rhanbarthol y Cymoedd i Groundwork Wales.