Mae’n dal yn amser paned yn y Pyrth Darganfod

Mae busnesau bwyd a diod wedi gorfod ymaddasu sawl gwaith eleni, ac nid yw’r cyfnod atal diweddaraf hwn yn eithriad. Mae rhai o’n Pyrth Darganfod yn parhau i wasanaethu cymunedau lleol ac maent yn ofodau awyr agored gwych lle gallwch fynd am dro llesol a mwynhau paned i’ch cynhesu wrth i’r tywydd ddechrau oeri.

Mae Parc Slip ger Tondu, Pen-y-bont ar Ogwr, yn cynnig Tecawê Gwyllt: https://www.welshwildlife.org/menu/wild-takeaways-from-our-visitor-centre-cafes/

Mae Parc Bryn Bach ger Tredegar, Blaenau Gwent, hefyd yn cynnig bwydydd tecawê o’u ciosg: https://parcbrynbach.co.uk/visitor-centre/coffee-shop/

Defnyddiwch eich Pyrth Darganfod i ymarfer corff yn ystod y cyfnod atal hwn ar bob cyfrif, ond cofiwch gadw pellter oddi wrth bobl o’r tu allan i’ch cartref a gwnewch yn siŵr eich bod yn gwrando ar gyngor diweddaraf y llywodraeth.

Newyddion a straeon diweddaraf
Skip to content