Mae enwau llefydd Cymru yn adrodd stori

Bydd rhai o lefydd a thirluniau mwyaf annwyl Merthyr Tudful a Rhondda Cynon Taf i’w gweld ar ‘fap stori’ mewn ymgais i gadw enwau lleoedd Cymraeg gwreiddiol.

Gofynnodd Prosiect Enwau Lleoedd a Thirluniau Diwylliannol i breswylwyr Merthyr Tudful a Rhondda Cynon Taf gymryd rhan mewn arolwg i ddynodi’r lleoedd sy’n bwysig iddyn nhw neu sydd â stori y tu ôl i’w henwau, er mwyn ceisio cadw eu hanes yn fyw.

Cafwyd mwy na 100 ymateb i’r holiadur gan gyfrannu at ddewis 10 lle/tirlun yn y ddwy fwrdeistref sirol yr ymchwiliodd tîm y prosiect iddynt i gael rhagor o fanylder er mwyn deall y tarddiad y tu ôl i’w henwau.

Wedi eu cynnwys yn y rhestr mae: Mynwent y Crynwyr, Ynys Owen, Pwll Glo Deep Navigational, Treharris, Cronfa Ddŵr Pontsticill, Afon Taf, Y Waun, Pontrhun, Cefn Cil Sanws ac Ynysfach.

“Mae enwau lleoedd Cymraeg yn adrodd stori”, dywedodd Aelod Cabinet dros Adfywio a Diogelu’r Cyhoedd y Cyngor Bwrdeistref Sirol, y Cynghorydd Geraint Thomas. “O gwmpas 480AD, cafodd Tudful, merch y Brenin Brychan ei merthyru mewn cyrch paganaidd. Ar ôl hynny cafodd y fan ble y’i lladdwyd yr enw Merthyr Tudful er anrhydedd iddi.

“Fodd bynnag, am sawl rheswm, mae rhai enwau lleoedd traddodiadol yn mynd ar goll,” ychwanegodd. “Efallai bod y twf yn y cyfryngau cymdeithasol a phlatfformau ar-lein ar gyfer gweithgareddau awyr agored yn ychwanegu at y duedd hon. Mae Saesnigo’r enwau yn ganlyniad anochel i ddiwydiannaeth a gallai mewnfudwyr fod yn rheswm arall – er enghraifft yr ynganiad lleol o Hirwaun fel ‘Herwin’.

Cafodd y prosiect ei gomisiynu gan Gweithredu Gwledig Cwm Taf – y Rhaglen Datblygu Gwledig ym Merthyr Tudful a Rhondda Cynon Taf.

Mae’r prosiect hwn wedi derbyn cyllid drwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, sy’n cael ei ariannu gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.

Caiff ei arwain gan yr ymgynghoriaeth Gwasanaethau Amgylcheddol a leolir yng Nghaerdydd, TACP (UK), ac mae’n cynnwys Archaeoleg y Mynydd Du, yr ymgynghorwyr GeoArch a’r grŵp: Huw James Media..

Mae tîm y prosiect wedi gosod cyfres o ffilmiau a delweddau at ei gilydd ar gyfer y map stori, ochr yn ochr â disgrifiadau cryno am hanes pob lle a thirlun – caiff dolenni byw eu hychwanegu’n ddiweddarach:

www.cysylltiadaudiwylliannol.cymru

“Mae’r map stori yn cynnwys lleoedd sydd ag arwyddocâd arbennig i breswylwyr, busnesau ac ymwelwyr – ble maen nhw’n byw, mynd ar eu gwyliau, gwneud ymarfer corff neu ble maen nhw’n mynd i ddianc,” dywedodd y Cynghorydd Thomas. “Y gobaith yw y bydd yn helpu i roi diwedd ar y duedd o golli enwau traddodiadol a chadw a gwella’u gwreiddiau.”

Newyddion a straeon diweddaraf
Skip to content