Mae dod â phobl a natur ynghyd wrth galon ein cynllun Gwarcheidwaid. Mae gweithgareddau ymarferol, lle gellir mwynhau bywyd gwyllt a thirwedd ysblennydd y Cymoedd, yn rhoi cyfle i bobl ddysgu sgiliau newydd ac i fod yn rhan o’u cymuned leol.
Mae gan Barc Rhanbarthol y Cymoedd saith o Warcheidwaid sy’n gweithio ledled y Cymoedd, o Sir Gaerfyrddin i Dorfaen. Mae pob Gwarcheidwad yn arbenigo mewn gwaith cadwraeth ymarferol, cynaladwyedd ac iechyd, ac maent yno i arwain pobl drwy’r sesiynau; does dim angen profiad!
Dyma un o’n Gwarcheidwaid, Heather Manson, i sôn wrthym am y profiad o weithio ar y rhaglen:
“Ein nod ar y cychwyn yw croesawu pobl ac i sicrhau eu bod yn mwynhau’r sesiynau. Dyma sy’n gwneud iddyn nhw ddod yn ôl atom dro ar ôl tro. Does dim diwrnod nodweddiadol ym mywyd Gwarcheidwad Parc Rhanbarthol y Cymoedd; gallai unrhyw beth ddigwydd!”
Mae adeiladu blwch adar, creu blwch i blannu planhigion ynddo neu roi twnelau polythen at ei gilydd yn hwyl ac yn ymarfer corff da. Mae addysg amgylcheddol hefyd yn ffactor hollbwysig yn hyn oll. Pwy a wŷr pa rywogaethau fydd yn dod i ymweld â’r blwch adar hwnnw a grëwyd â’r fath falchder!
Mae tyfu i fod yn rhanbarth eco-lythrennol yn un o amcanion cyffredinol Parc Rhanbarthol y Cymoedd. Golyga hyn y dylai pob oedolyn a phlentyn gael cyfle i ddysgu’r pethau syml am bwysigrwydd natur i bobl ac i’r blaned.
Mae pobl yn gweithio’n galed y tu ôl i’r llenni i greu sesiynau sy’n hwyl ac sy’n ddiogel; mae hyn yn bwysicach nag erioed erbyn hyn o ganlyniad i’r canllawiau Covid. Mae pobl yn aml yn ymuno â sesiynau heb wybod yn iawn beth i’w ddisgwyl, ond mae sawl un yn sylwi ei bod yn gwneud lles iddynt ddod allan i fwynhau bywyd natur.
“Cyn y sesiynau, rydym yn rhoi trefn ar y gwaith papur ac yn paratoi’r adnoddau a’r offer y bydd eu hangen ar bob grŵp. Ar ôl y sesiynau, rydym yn cofnodi gwahanol bethau, e.e. faint o bobl oedd yn bresennol, sut y gwnaethom wahaniaeth i’r amgylchedd a sut y gwnaethom i bobl deimlo’n well”.
Mae mwy a mwy o dystiolaeth erbyn hyn bod dod allan i fwynhau bywyd natur yn llesol inni, ac mae cynllun Gwarcheidwaid Parc Rhanbarthol y Cymoedd yn ategu’r dystiolaeth honno. O gofio bod ein cymunedau’n wynebu amseroedd ansicr, mae hyn yn bwysicach nag erioed o’r blaen. Mae grwpiau ledled y rhanbarth yn mwynhau’r cynllun hwn ac mae’r rhaglen wedi’i theilwra i fodloni anghenion gwahanol bobl.
“Rydym yn cynllunio ein prosiectau drwy drafodaethau â grwpiau. Rydym yn awyddus i wybod beth sy’n bwysig i’w cymuned nhw. Rydym allan gan amlaf yn cynnal sesiynau amgylcheddol â phobl; ymhob tywydd!”
O gofio mai dim ond saith o Warcheidwaid sydd gennym, ac mai cwta bedwar mis o weithgarwch yr ydym wedi’i weld oherwydd y cyfyngiadau Covid, rydym wedi gweithio â chynifer â 178 o bobl (ac ry’n ni’n dal i gyfri!) a 120 o ddisgyblion ysgol hyd yma. Rydym hefyd wedi rhoi cychwyn ar ddeg o brosiectau ac mae saith arall yn yr arfaeth. Rydym yn edrych ymlaen yn eiddgar at ddarganfod beth fydd dyfodol cynllun y Gwarcheidwaid, a’n nod yw ysbrydoli rhagor o bobl i gymryd rhan yn y cynllun ac i ddod allan i fwynhau bywyd natur.
Ariennir cynllun y Gwarcheidwaid gan Lywodraeth Cymru ar hyn o bryd, ac mae’n rhan o Barc Rhanbarthol y Cymoedd. Mae’r cynllun yn cael ei redeg mewn cydweithrediad â Groundwork Wales. Diolchwn yn arbennig i Heather Manson yn Groundwork Wales. Diolchwn hefyd i’n holl staff ymhob Porth Darganfod am groesawu’r cynllun i’w safle.