Mae’n bleser gan Barc Rhanbarthol y Cymoedd gyhoeddi ei fod wedi dyfarnu contract Cynllun Gwarcheidwaid Parc Rhanbarthol y Cymoedd i Groundwork Wales.
Mae’r Gwarcheidwaid yn dîm penodedig sy’n cynnal gweithgareddau natur ar draws y Cymoedd. Mae’r Gwarcheidwaid, sy’n gweithio drwy Byrth Darganfod Parc Rhanbarthol y Cymoedd ac mewn cymunedau lleol, yn cynnig cyfleoedd ysbrydoledig i ddod yn rhan o’r byd natur sydd ar garreg ein drws.
Yn rhan o’r prosiect, bydd y Gwarcheidwaid yn parhau i gydweithio’n agos â sefydliadau lleol eraill ar draws y deuddeg Porth Darganfod ac mewn rhai mannau cymunedol eraill dros y ddwy flynedd nesaf. Eu nod fydd darparu cyfleoedd cyffrous i unigolion a chymunedau i ddod yn rhan o fyd natur.
Mae’r Cynllun Gwarcheidwaid yn croesawu pobl o bob carfan o’r boblogaeth, ni waeth beth fo’u hoedran. Mae’r gweithgareddau yn amrywio ac maent yn cynnwys creu gerddi cymunedol, prosiectau tyfu, gweithgareddau byw yn y gwyllt, teithiau cerdded i hyrwyddo lles a llawer o weithgareddau eraill sy’n seiliedig ar natur.
Meddai Phil Lewis, sy’n arwain y rhaglen ym Mharc Rhanbarthol y Cymoedd: “Mae hwn yn gyfle cyffrous inni barhau â’r gwaith rhagorol a wnaed yn ystod y cyfnod peilota. Mae’r cydweithio a fu rhyngom yn ystod y 15 mis diwethaf, o gofio’r holl heriau a ddaeth yn sgil COVID-19, wedi bod yn rhagorol. Edrychwn ymlaen at barhau i weithio mewn partneriaeth â nhw er mwyn cefnogi ac annog pobl a chymunedau ymhob cwr o’r Cymoedd i gydnabod ac i fwynhau’r dirwedd a’r mannau gwyrdd lleol sydd yma.”
Meddai Katy Stevenson, Prif Weithredwr Groundwork Wales: “Mae’n bleser mawr gennym fod yn rhan o Barc Rhanbarthol y Cymoedd a chynnal y Cynllun Gwarcheidwaid drwy gydol y rhaglen ddwy flynedd newydd hon. Mae gennym ni dirwedd a phobl anhygoel yma yn y Cymoedd. Fel elusen sy’n gweithio wrth galon cymunedau’r Cymoedd, edrychwn ymlaen yn eiddgar at ddod â’n cenhadaeth gyda ni wrth inni gychwyn ar y gwaith hwn, sef ‘newid llefydd, newid bywydau’. Mae’r rhaglen yn gyfle gwych i ddod â phobl a’r amgylchedd at ei gilydd mewn ffyrdd arloesol ac i gefnogi’r amgylchedd, yr economi ac iechyd pobl – mae’r rhain i gyd yn bethau mor bwysig, ond fe ddônt yn bwysicach fyth wrth inni ailgydio yn ein bywydau ar ôl y pandemig.”
Ariennir cynllun y Gwarcheidwaid gan Gronfa Amaethyddol Ewropeaidd ar gyfer Datblygu Gwledig. Mae Parc Rhanbarthol y Cymoedd wedi sicrhau rhagor o gyllid drwy Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru i gefnogi’r gwaith parhaus i gyflawni amcanion Parc Rhanbarthol y Cymoedd. Mae’r Parc yn bartneriaeth a gynhelir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
Yn y llun (o’r chwith i’r dde): Mary O’Grady, Heather Manson, Kim Davis and Ian Plumley