Mae ein ‘mannau gwyrdd’ awyr agored naturiol yn hanfodol inni gyd, ac mae’r ffaith hon wedi cael sylw blaenllaw yng nghanfyddiadau arolwg newydd a gynhaliwyd gan Barc Rhanbarthol y Cymoedd.
Nod yr arolwg oedd dod i wybod pa mor werthfawr oedd mannau gwyrdd i bobl, ac a oedd hyn wedi newid o ganlyniad i’r argyfwng COVID-19. Cynhaliwyd yr arolwg rhwng mis Gorffennaf a mis Medi eleni, a llwyddwyd i gyrraedd pobl ymhob awdurdod lleol ledled y Cymoedd. Aeth dros 400 o bobl ati i gwblhau’r arolwg yn llawn, a chafwyd dros 1000 o atebion i rai cwestiynau.
Roedd canfyddiadau’r arolwg yn gwbl bendant bod mannau gwyrdd lleol yn werthfawr iawn i bobl ledled y Cymoedd, yn arbennig felly ers cychwyn yr argyfwng COVID-19.
Un o’r canfyddiadau pwysig oedd y ffaith bod newid sylweddol wedi bod yn agweddau pobl, a bod 74% o bobl yn gwerthfawrogi mannau gwyrdd yn fwy ers cyflwyno’r cyfyngiadau symud. Canfuwyd hefyd bod 82% o bobl yn fwy ymwybodol o fywyd gwyllt wrth iddynt ddarganfod llefydd newydd i ymgolli ynddynt yn eu hardaloedd lleol.
Pwysleisiwyd yr effaith gadarnhaol ar les pobl yn yr arolwg hefyd. Roedd 96% o bobl o’r farn bod mannau gwyrdd yn eu helpu i fod yn iach yn gorfforol ac yn feddyliol yn ystod y cyfyngiadau symud, ac roedd 81% am weld rhagor o fannau gwyrdd yn agos at eu cartrefi.
Pan ofynnwyd i bobl gynnig sylwadau ychwanegol ynglŷn â’r cyfleoedd sydd ar gael wrth ddefnyddio mannau gwyrdd lleol, yr ateb a gafwyd fwy na heb oedd eu bod nhw’n hollbwysig i’w hiechyd a’u lles meddyliol.
Canfuwyd drwy’r arolwg hefyd pob gan fannau gwyrdd botensial enfawr i wella lles pobl yn y dyfodol. Dywedodd 54% o’r ymatebwyd eu bod wedi defnyddio mannau gwyrdd lleol i gychwyn ar ymgyrch ymarfer corff newydd yn ystod y cyfyngiadau symud, a dywedodd 95% ohonynt y byddant yn defnyddio mannau gwyrdd yn amlach yn y dyfodol. O’u plith, nododd 356 o’r ymatebwyr eu bod yn bwriadu defnyddio mannau gwyrdd yn amlach i gerdded, 162 ohonynt i seiclo a 77 ohonynt i redeg. Roedd 225 o’r ymatebwyr yn bwriadu ymweld â rhagor o warchodfeydd natur.
Pwysig hefyd yw nodi bod rhagor o bobl bellach yn awyddus i gymryd rhan. Pan ofynnwyd pa weithgareddau y byddai pobl yn dymuno cymryd rhan ynddynt yn amlach mewn mannau gwyrdd ar ôl codi’r cyfyngiadau symud, dywedodd dros 100 o’r ymatebwyr eu bod yn awyddus i wirfoddoli i fod yn rhan o brosiectau cadwraeth.
Dywedodd dros 50 o’r ymatebwyr fod mannau gwyrdd yn bwysig i’w busnesau.
Mae’r dystiolaeth wedi bod yn cynyddu ers blynyddoedd lawer. Serch hynny, mae argyfwng COVID-19 wedi amlygu pwysigrwydd gwirioneddol defnyddio’r amgylchfyd naturiol er ein lles ni i gyd, heb sôn am bwysigrwydd tirweddau iach i sicrhau ‘gwasanaethau ecosystem’ fel y’i gelwir, ac i liniaru effeithiau’r argyfwng newid hinsawdd.
Wrth i dirlun y Cymoedd barhau i ddod at ei hun yn sgil effeithiau diwydiannau’r gorffennol, mae cyfle gwirioneddol yma i gefnogi iechyd, cyfoeth a hapusrwydd cymunedau lleol. Wrth inni gyd anelu at ‘Adferiad Gwyrdd’ yn sgil effeithiau pandemig COVID-19, mae arolwg Parc Rhanbarthol y Cymoedd yn brawf pellach nad llefydd dymunol i ymweld â nhw ar y penwythnos un unig yw ein parciau a’n tirweddau naturiol. Y ffaith amdani yw eu bod yn elfennau cwbl anhepgor o’n seilwaith iechyd cyffredinol. Maent yn rhwydwaith gwyrdd byw sy’n sail i’n hiechyd ac i’n dygnwch ehangach, mewn cyfnodau da a drwg.