Dyfarnwyd mwy na £850,000 i Barc Rhanbarthol y Cymoedd (VRP) ar gyfer ei Gynllun Gwarcheidwad.
Mae cyfanswm o £864,051 o gyllid wedi’i gymeradwyo gan y Rhaglen Datblygu Gwledig. Mae’n dilyn cyllid o £981,655 a ddyfarnwyd gan Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru ym mis Rhagfyr i gefnogi’r gwaith parhaus o ddarparu VRP a gynhelir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr hyd at haf 2023.
Bydd hyn yn caniatáu parhad y cynllun, sydd wedi gweld tîm o Warcheidwaid VRP, sydd ag amrywiaeth o arbenigedd mewn meysydd fel cadwraeth ymarferol, cynaliadwyedd ac iechyd, yn arwain gweithgareddau i breswylwyr weithio ar brosiectau ar y tir ac i helpu i ddiogelu ac adfer tirwedd ein cymoedd.
Bydd Gwarcheidwaid yn gweithio yn y Pyrth Darganfod VRP, yn ogystal â rhai canolfannau cymunedol, i helpu pobl leol i gysylltu’n well â’r dirwedd drwy ddatblygu cyfleoedd a gweithgareddau gwirfoddoli gan ganolbwyntio ar ddatblygu sgiliau, iechyd a llesiant.
Mae’r gweithgareddau wedi’u hanelu at ystod o oedrannau, a byddant yn cynnwys gweithgareddau fel creu gardd gymunedol, prosiectau tyfu, coedwriaeth, a theithiau cerdded llesiant, er enghraifft, a nifer o weithgareddau eraill sy’n seiliedig ar natur.
Gyda’r cyllid hwn ar waith bydd y Gwarcheidwaid yn parhau i ategu’r gwaith sy’n cael ei wneud ar draws y bartneriaeth VRP i ddatblygu prosiectau newydd y gellir eu hailadrodd ar draws y rhanbarth ac i sicrhau’r dull hirdymor o wella a gwneud y gorau o’r dirwedd wych sydd gennym yn ein Cymoedd.
Dywedodd Phil Lewis, sy’n arwain ar y VRP: “Bydd y Gwarcheidwaid yn helpu i gysylltu pobl â’r tirweddau hardd o’u cwmpas, y natur ar garreg eu drws, a hefyd â’i gilydd.
“Mae cadwraeth ac adfer a wneir gan wirfoddolwyr, megis cyfraniadau sylweddol i atgyweirio llwybrau a phontydd mewn Pyrth Darganfod, neu gymryd rhan mewn prosiectau tyfu bwyd, hefyd yn dod â manteision ychwanegol i’r gymuned ehangach.
“Gan ddefnyddio dull cymoedd cyfan, mae’r VRP yma i hyrwyddo a dathlu adferiad tirwedd ein cymoedd, yn sicrhau ein bod yn uno iechyd y tir, y bobl a’r economi ym mhopeth rydym yn ei wneud.”
Dywedodd arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Huw David: “Mae’n newyddion gwych bod cyllid wedi’i sicrhau i ganiatáu i’r Gwarcheidwaid barhau â’u gwaith o helpu trigolion i wneud y gorau o’r dirwedd, adnoddau naturiol ac asedau diwylliannol gwych o’n cwmpas.
“Mae’r cyngor yn falch iawn o gynnal y VRP ac i hyrwyddo’r trefi, pentrefi a thirweddau hanesyddol a hardd yn ein rhanbarth yn y Cymoedd.”
Mae’r bartneriaeth VRP yn cynnwys 13 o awdurdodau lleol ledled De Cymru o Dorfaen yn y dwyrain i Sir Gaerfyrddin yn y gorllewin, y pedwar bwrdd iechyd yn y rhanbarth, Cyfoeth Naturiol Cymru, Llywodraeth Cymru a llawer o randdeiliaid eraill o’r trydydd sector a’r sector cyhoeddus.