Cyfnod atal yn dod â rhaglen y Gwarcheidwaid i ben am y tro

Er mwyn cydymffurfio â chyfyngiadau cyfnod atal Llywodraeth Cymru a gyhoeddwyd yr wythnos hon, ni fydd rhaglen Gwarcheidwaid Parc Rhanbarthol y Cymoedd yn cael ei chynnal rhwng dydd Gwener, y 23ain o Hydref a dydd Llun, y 9fed o Dachwedd. Sylweddolwn y bydd y penderfyniad hwn yn destun siom i’r rhai sydd eisoes yn cymryd rhan yn y rhaglen, ond cytunwn ei bod yn hollbwysig ein bod yn cymryd pob cam angenrheidiol ar yr adeg hon.

Hoffem achub ar y cyfle hwn i roi sylw i’r gweithgareddau awyr agored gwych yr ydym wedi bod yn eu cynnal drwy roi mesurau diogelwch Covid ar waith.

Mae’r Gwarcheidwaid wedi bod yn cynnal grwpiau cadwraeth amgylcheddol ymarferol bob wythnos ym Marc Gwledig Bryngarw a Pharc Gwledig Cwm Dâr. Yn ystod y sesiynau hyn, mae’r gwirfoddolwyr wedi bod yn ymgymryd â gwahanol weithgareddau, e.e. clirio prysgoed i greu pyllau ac ardaloedd i flodau gwyllt, gwaredu â bambŵ, dysgu technegau rheoli coetiroedd, creu llwybrau ceffylau newydd a chynnal a chadw pontydd a grisiau. Mae’r grŵp yng Nghwm Dâr yn edrych ymlaen yn fawr at greu llwyfan bwrpasol i wylio hebogau tramor yn eu cynefin naturiol y gaeaf hwn.

Mae teuluoedd o Ben-y-bont at Ogwr hefyd wedi cael blas ar sesiynau natur a byw yn y gwyllt ym Marc Gwledig Bryngarw. Nod y sesiynau hyn yw trwytho pobl ym myd natur drwy weithgareddau ymarferol, e.e. adeiladu ffeuau, cynnau tanau, coginio ar dân agored a gweithgareddau ym myd natur. Mae plant nifer o’r teuluoedd sy’n cymryd rhan yn y gweithgareddau hyn yn cael eu haddysg gartref, ac maent yn awyddus i greu grŵp cadwraeth ymarferol i reoli tir yn gynaliadwy a thyfu coed brodorol.

Mae ein gardd gymunedol yn Hwb Cymunedol Twyn ym Merthyr wedi bod yn boblogaidd iawn. Bu gwirfoddolwyr yn paratoi’r gawell ffrwythau ac yn plannu coed ffrwythau. Buont hefyd yn creu cwt ieir ac yn gofalu am bedair iâr sy’n byw yno. Maen nhw wedi gwastatau’r llawr yn y polytwnnel, creu gwelyau plannu uwch a byddant yn plannu llysiau i’r gymuned yn fuan iawn.

Ym Mhenderyn ac yn Hirwaun, mae preswylwyr lleol yn parhau i gymryd rhan yn ein prosiect pryfaid peillio. Yma, rydym yn creu ardaloedd sy’n gyfeillgar i bryfaid peillio fel y gallwn gefnogi gwenyn a phryfaid peillio eraill.

Cynhaliwyd dau grŵp cerdded bob wythnos ym Merthyr ac yn Aberdâr, ac mae’r teithiau hyn yn addas i’r rhai sy’n well ganddynt lwybrau byr a gwastad. Yn ystod y teithiau hyn, gall pobl fwynhau clywed am dreftadaeth leol, dysgu am yr amgylchfyd naturiol a chymdeithasu’n ddiogel yn yr awyr agored.

Edrychwn ymlaen yn fawr at barhau â’n gwaith pan fydd y cyfyngiadau’n cael eu codi ar yr 9fed o Dachwedd. Diolchwn i bawb sydd wedi cymryd rhan yn ein gweithgaredd a sicrhau bod y rhain yn sesiynau diogel i bawb.
I gael gwybodaeth am barciau a mannau gwyrdd ger eich cartref, ewch i wefannau’r parciau a gwefannau awdurdodau lleol i gael y newyddion diweddaraf a gwybodaeth am ddiogelwch sy’n ymwneud â Covid-19.

Newyddion a straeon diweddaraf
Skip to content