Canolfan Addysg a Lles Newydd — bellach ar agor ym Mharc Gwledig Bryngarw

Ddydd Iau, 2 Rhagfyr, cafodd canolfan addysg a lles newydd sbon ei hagor yn swyddogol gan y Dirprwy Weinidog dros y Celfyddydau a Chwaraeon, Dawn Bowden AS, ym Mharc Gwledig Bryngarw.

Yn dilyn buddsoddiad gwerth £750,000 gan Lywodraeth Cymru fel rhan o Barc Rhanbarthol y Cymoedd, mae’r cyfleuster newydd yn un o nifer o welliannau i safleoedd a wnaed gan Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen mewn partneriaeth â Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ym Mharc Gwledig Bryngarw dros y deunaw mis diwethaf.

Dyma bopeth sydd angen i chi ei wybod am ganolfan addysg a lles newydd y Parc:

  • Enw’r cyfleuster newydd yw ‘Y Nyth’.
  • Mae’n cynnwys ystafell ddosbarth a chegin bwrpasol, gyda drysau deublyg i feranda eang sy’n edrych dros dopiau coed ac afon Garw — gan ei gwneud yn lle perffaith ar gyfer cynnal gwersi ysgol oddi ar y safle, cyfarfodydd, gweithdai ac encilion yn ystod y dydd.
  • Mae’r Nyth ar gael i’w llogi ar gyfer ysgolion, grwpiau cymunedol a sefydliadau eraill ledled Cymoedd De Cymru — a thu hwnt.
  • Mae PRhC yn gobeithio y bydd y ganolfan nid yn unig yn gwella profiad ymwelwyr ym Mharc Gwledig Bryngarw, ond yn annog mwy o bobl i ystyried manteision lles o ddewis cwrdd, dysgu a threulio amser ymysg natur.

 

Dywedodd Phil Lewis, Arweinydd PRhC: “Rwy’n ddiolchgar i bawb a fu’n rhan o’r gwaith o ddarparu’r ganolfan addysg newydd a gwelliannau eraill ar draws Parc Gwledig Bryngarw. Bydd y cyfleusterau gwell hyn ac ymrwymiad y tîm yn Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen i weithio gyda’r bartneriaeth PRhC ehangach ledled y Cymoedd yn chwarae rhan fawr wrth helpu ein cymunedau a’n hymwelwyr i ddeall ein hamgylchedd naturiol yn well a sut rydym yn ei ddefnyddio fel rhan o’n bywyd bob dydd.”

Ychwanegodd Richard Hughes, Prif Weithredwr Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen: “Rydym yn ddiolchgar i Lywodraeth Cymru am gydnabod potensial Parc Gwledig Bryngarw fel cyrchfan ranbarthol o ddewis i ymwelwyr a chefnogi ein gweledigaeth gyda’r lefel sylweddol hon o gyllid. Mae deunaw mis diwethaf y pandemig wedi dangos i ni fod awyr iach a rhyddid i archwilio’r awyr agored yn hanfodol i’n lles corfforol, meddyliol a chymdeithasol. Gobeithiwn y bydd ein gwelliannau i Fryngarw, a datblygu cyfleusterau newydd o ansawdd uchel sy’n gwneud y mwyaf o’n treftadaeth ddiwylliannol a naturiol gyfoethog, yn parhau i ddenu, ymgysylltu ac addysgu pobl y Cymoedd ac ymwelwyr â’r ardal, am lawer o flynyddoedd llwyddiannus i ddod.”

Mae Parc Gwledig Bryngarw yn un o ddeuddeg Canolfan Ddarganfod PRhC, sy’n elwa ar gyfran o dros £6m o gyllid, gyda’r nod o gydnabod a manteisio i’r eithaf ar botensial asedau naturiol a diwylliannol Cymoedd De Cymru i greu manteision cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol.

Ariennir Parc Rhanbarthol y Cymoedd gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop Llywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.

Newyddion a straeon diweddaraf
Skip to content