Cabinet i drafod ymestyn rôl lletya Parc Rhanbarthol y Cymoedd

Bydd cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn trafod ymestyn ei rôl fel lletywr Parc Rhanbarthol y Cymoedd tan fis Mehefin 2023.

Mae Parc Rhanbarthol y Cymoedd yn hyrwyddo treftadaeth naturiol a diwylliannol Cymoedd y De gyda’r nod o ddatblygu ymrwymiad rhanbarthol i hyrwyddo a rheoli’r dirwedd ar y cyd.

Mae hefyd yn ceisio helpu pobl i ail-gysylltu â thirwedd y Cymoedd er eu llesiant, fel ei fod yn dod yn lle ar gyfer gwneud ymarfer corff, gweithio, ymlacio a mwynhau natur, yn ogystal ag ar gyfer y celfyddydau a threftadaeth, ac ar gyfer addysg; a sicrhau bod y dirwedd yn sail i economi leol gadarn, sy’n cefnogi busnesau, menter gymunedol a datblygu sgiliau a dysgu.

Yn cynnwys arweinwyr cynghorau’r 13 awdurdod lleol yn y rhanbarth, mae bwrdd y bartneriaeth ranbarthol yn cwmpasu ardal o Sir Gaerfyrddin yn y gorllewin i Bont-y-pŵl yn y dwyrain, a Phen-y-bont ar Ogwr yn y de, i Ferthyr Tudful yn y gogledd.

Mae bwrdd Parc Rhanbarthol y Cymoedd wedi gofyn i Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr barhau fel lletywr tan fis Mehefin 2023. Mae adroddiad i gabinet y cyngor, i’w drafod yn ei gyfarfod ar 17 Tachwedd, yn argymell cymeradwyo’r cynnig.

Yn ei rôl, mae’r cyngor yn cynnal tîm bach pwrpasol sy’n gweithio gyda sefydliadau’r sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector ar draws y rhanbarth i ddatblygu’r bartneriaeth. Os caiff yr estyniad ei gymeradwyo, bydd y cyngor yn edrych ar ffyrdd newydd o weithio i ddatblygu opsiynau ar gyfer llywodraethu, model gweithredu a mecanwaith ariannu Parc Rhanbarthol y Cymoedd yn y tymor hir.

Daw’r cyllid ar hyn o bryd gan Dasglu Gweinidogol Llywodraeth Cymru ar gyfer Cymoedd y De a gyhoeddodd y byddai Parc Rhanbarthol y Cymoedd yn cael ei greu yn 2018. Mae arian ychwanegol bellach wedi’i sicrhau drwy Gronfa Gymdeithasol Ewrop drwy Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru a Llywodraeth Cymru.

Yn ogystal â hyrwyddo’r Cymoedd fel cyrchfan, mae Parc Rhanbarthol y Cymoedd yn annog partneriaid i weithio tuag at arferion gorau yn y maes rheoli tirweddau er mwyn helpu i wella bioamrywiaeth.

Mae Parc Rhanbarthol y Cymoedd yn gweithio gydag 11 o safleoedd y Porth Darganfod gan gynnwys Parc Gwledig Bryngarw a Pharc Slip ym Mhen-y-bont ar Ogwr, yn ogystal â Chanolfan Treftadaeth y Byd Blaenafon, Castell Caerffili a Pharc Cyfarthfa ym Merthyr, ymhlith eraill.

Lansiwyd gwefan newydd Parc Rhanbarthol y Cymoedd yn yr haf ac mae’n cynnwys map o’r rhanbarth gyda gwybodaeth am safleoedd y Porth Darganfod.

Diwedd – am ragor o wybodaeth, cysylltwch â’r swyddog cyfathrebu Sarah Hughes ar (01656) 643647 neu anfonwch e-bost at: sarah.hughes2@bridgend.gov.uk Gwefan: www.bridgend.gov.uk

Newyddion a straeon diweddaraf
Skip to content