Atyniadau awyr agored yn cau dros yr Ŵyl

Yn ddiweddar, mae Llywodraeth Cymru wedi adolygu’i chanllawiau sy’n ymwneud ag “atyniadau awyr agored”, ac mae disgwyl iddynt gau dros yr Ŵyl. Mae llawer o barciau a mannau gwyrdd ymhob cwr o’r rhanbarth yn llefydd pwysig i breswylwyr lleol gadw’n heini ac ymlacio, ac mae rhai ohonynt ar agor gydol y flwyddyn gan nad oes ganddynt fynedfeydd. Nid ydym yn disgwyl i bob parc a man gwyrdd lleol fod ynghau dros dro. Fodd bynnag, os ydych yn ymweld ag un o’r Pyrth Darganfod, ewch i wefan a thudalennau cyfryngau cymdeithasol y lleoliad penodol hwnnw i wybod beth yw’r sefyllfa cyn ichi adael eich cartref, gan ei bod yn bosib na fydd rhai cyfleusterau neu weithgareddau ar gael yno. Os ydych yn defnyddio parc neu fan gwyrdd lleol dros y gwyliau, parchwch eraill a chadwch yn ddiogel.

Newyddion a straeon diweddaraf
Skip to content