Mae PRhC yn dod â rhwydwaith o ddeuddeg parc trefol a gwledig a gwarchodfeydd natur at ei gilydd – a elwir hefyd yn ‘Byrth Darganfod’ – fel rhan o brosiect i sefydlu parc rhanbarthol parhaol ar gyfer Cymoedd De Cymru.
Mae parciau rhanbarthol i’w gweld yn y DU a ledled y byd, gan roi cyfleoedd hamdden a lles i drigolion ac ymwelwyr – gyda neu heb ddynodiad ffurfiol – wrth annog cyfranogiad y gymuned i ofalu am y dirwedd.
O reoli cefn gwlad i dwristiaeth, fe wnaeth staff mewn amrywiaeth o swyddi gwrdd yn ddiweddar fel rhan o’r rhwydwaith newydd i drafod y datblygiadau presennol yn eu safleoedd, hwyluso rhannu gwybodaeth, a chynllunio cyfleoedd rhwydweithio ar gyfer y dyfodol.
Yn uchel ar yr agenda roedd yr angen am ddulliau marchnata cydweithredol ar gyfer cynulleidfaoedd preswyl ac ymwelwyr er mwyn cynyddu nifer yr ymwelwyr ym mhob Porth Darganfod. Roedd datblygu ceisiadau am gyllid o ansawdd hefyd yn flaenoriaeth, gydag ymchwil yn cael ei rhannu gan PRhC i gryfhau sylfaen dystiolaeth y rhwydwaith. Roedd gwneud y defnydd gorau o staff arbenigol ar draws y rhanbarth hefyd yn thema bwysig – er enghraifft, wrth adnabod clefydau coed er mwyn caniatáu ymyrraeth gynnar.
Gan elwa ar £7 miliwn a ddyfarnwyd gan Lywodraeth Cymru yn 2019 trwy PRhC, mae’r rhwydwaith eisoes wedi gweithredu amrywiaeth o welliannau. Ac i nifer o’r parciau, mae’r buddsoddiad wedi bod yn drawsnewidiol – gan eu galluogi i groesawu mwy o ymweliadau addysgol, cynnig cyfleusterau ychwanegol i ymwelwyr anabl, gwella traciau a llwybrau er mwyn cynyddu hygyrchedd, a llawer mwy.
Yn dilyn y cyfarfod cyntaf yn ddiweddar, dan arweiniad y gwesteiwyr Hamdden Aneurin, cafodd y rhwydwaith gyfle i fwynhau taith o amgylch Parc Bryn Bach – parc gwledig poblogaidd sy’n cynnwys Gwarchodfa Natur 112 hectar. Mae cyllid, gan gynnwys cymorth gan PRhC, wedi caniatáu adnewyddu’r caffi ar y safle, adeiladu byncws yn y ganolfan ymwelwyr, a chreu gardd synhwyraidd a hyb gweithio o bell ar lan y llyn – wedi’i gynllunio i roi dos o natur i ddefnyddwyr gliniaduron wrth iddyn nhw weithio.
Mae pob Porth Darganfod yn eiddo i awdurdodau lleol ac ymddiriedolaethau ledled rhanbarth y Cymoedd. Ymhlith aelodau o Rwydwaith y Pyrth Darganfod mae: Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen, Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot, Cyngor Sir Gâr, Ymddiriedolaeth Hamdden Aneurin a Gorllewin Cymru, Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen, a Llesiant Merthyr (Ymddiriedolaeth).
Y Pyrth Darganfod a gaiff eu cynrychioli yn y rhwydwaith ar hyn o bryd yw: Castell Caerffili (a’r cyffiniau), Coedwig Cwm-carn, Parc Penallta, Parc Slip, Parc Gwledig, Canolfan Treftadaeth y Byd Blaenafon, Parc Bryn Bach, Parc Gwledig Cwm Dâr, Parc Coffa Ynysangharad, Parc Cyfarthfa, Parc Coedwig Afan, a Pharc Gwledig Llyn Llech Owain.
Cefnogir Parc Rhanbarthol y Cymoedd gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop trwy Lywodraeth Cymru. Mae Cronfa Gymdeithasol Ewrop yn cefnogi’r gwaith o ddatblygu model cynaliadwy ar gyfer Parc Rhanbarthol y Cymoedd drwy gyllid Blaenoriaeth 5 ar gyfer diwygio gwasanaethau cyhoeddus a gweithio rhanbarthol. Bydd cyfarfodydd chwarterol yn cael eu trefnu gyda’r rhwydwaith i hwyluso hyn –gyda’r cyfarfod nesaf i’w gynnal ddechrau’r gwanwyn.
Dysgwch fwy am y Pyrth Darganfod unigol yma.