Bryngarw Country Park – Awen Cultural Trust
Parc Rhanbarthol y Cymoedd
Parc Rhanbarthol y Cymoedd ydyn ni – rydyn ni’n frwd dros lesiant, diwylliant, yr amgylchedd a’r gymuned yng Nghymoedd y De.
Mae Parc Rhanbarthol y Cymoedd yn hyrwyddo pobl a thirwedd eiconig Cymoedd y De, gan weithio gyda phartneriaid i sicrhau’r buddion amgylcheddol a chymdeithasol mwyaf posibl i gymunedau lleol ac i genedlaethau’r dyfodol.
Trwy brosiectau amrywiol sy’n canolbwyntio ar y gymuned a mentrau awyr agored, rydym yn benderfynol o weithio mewn partneriaeth â chi, pobl y Cymoedd, i sicrhau bod ein rhanbarth yn parhau i fod yn lle gwych i weithio, i fyw ac i’w ddarganfod.
P’un a ydych am helpu i ddiogelu tirwedd y rhanbarth trwy gymryd rhan mewn gweithgareddau cadwraeth amgylcheddol am ddim yn un o’n safleoedd Pyrth Darganfod, darganfod eich tirwedd werdd leol o’r newydd, neu hybu’ch iechyd a’ch lles trwy dreulio amser yn yr awyr agored ymhlith natur.
Gofalu am y Cymoedd a’i bobl? Mae Yn Ein Natur.
Parc Slip, Wildlife Trust – G Gavigan
Treulio amser yn y Cymoedd
P’un a ydych yn byw ac yn gweithio yma neu’n ymweld â’r ardal, cewch groeso heb ei ail pan fyddwch yn ymweld â Chanolfan Ddarganfod, yn ymuno â grŵp lleol neu’n gwirfoddoli.
Cefnogi mentrau cymunedol Parc Rhanbarthol y Cymoedd
Un elfen allweddol o lwyddiant ein Cymoedd yn y dyfodol yw helpu mentrau cymunedol i ffynnu. Dyma gyfle i chi gael gwybod beth rydym yn ei wneud i’w helpu i dyfu.
Welcome to Our Woods – Project Skyline / Mike Erskine
Y Canolfannau Darganfod
Mae Canolfannau Darganfod hynod o ddiddorol ar draws de Cymru, sy’n disgwyl am bobl i’w harchwilio, ac mae pob un ohonynt yn cynnig profiad pleserus hollol unigryw.
Cliciwch ar y map i ddod o hyd iddynt a dechreuwch gynllunio eich antur heddiw!
Ar gyfer teuluoedd
Ydych chi’n chwilio am weithgareddau difyr i bobl o bob oed yn eich teulu? Ewch allan o’r tŷ a dewch i’n Canolfannau Darganfod i ddarganfod llwyth o bethau newydd, dysgu mwy am wreiddiau’r Cymoedd a mwynhau gweithgareddau cyffrous.
Ar gyfer gwirfoddolwyr
Oes gyda chi ddiddordeb mewn cwrdd â phobl a chyflawni rhywfaint o waith da ar yr un pryd? Mae angen gwirfoddolwyr arnom ym mhob un o’n cymunedau ym Mharc Rhanbarthol y Cymoedd er mwyn helpu i gadw a gwarchod ein Cymoedd.
Ar gyfer byd natur
Mae’r Cymoedd yn gartref i rai o dirweddau naturiol mwyaf trawiadol Cymru a rhai o’i rhywogaethau bywyd gwyllt mwyaf eiconig. Bydd ymweld â’r Canolfannau Darganfod yn eich galluogi i fynd yn agosach nag erioed at fyd natur.
Ar gyfer gwneud ymarfer corff
Mae tirwedd arw’r Cymoedd yn cynnig cyfleoedd i ni hybu ein hiechyd. Mae yma rywbeth at ddant pawb, boed yn gyfleoedd i gerdded yn hamddenol a mwynhau golygfeydd hardd neu’n gyfleoedd i ymuno â grwpiau a gweithgareddau a gaiff eu trefnu!
Ar gyfer hybu lles
Ydych chi’n mwynhau tawelwch, cyfleoedd i ymlacio neu gyfleoedd i gwrdd yn yr awyr iach? Gallwch ddod o hyd i’r lle delfrydol yn ein Canolfannau Darganfod neu fentro allan i chwilio am eich lle arbennig personol chi. Mae yna rywbeth i’ch cyfareddu rownd pob cornel!
Hygyrchedd Parc Rhanbarthol y Cymoedd
Ein gweledigaeth yw sicrhau bod Parc Rhanbarthol y Cymoedd yn barc i bawb! Dyma gyfle i chi gael gwybod pa gyfleusterau y gallwch ddisgwyl eu gweld ac ymhle, a chyfle i chi greu cysylltiadau â grwpiau, sefydliadau a mudiadau sydd o’r un anian â chi.
Ariennir Parc Rhanbarthol y Cymoedd gan gynllun Cronfa Strwythurol Ewrop o dan Flaenoriaeth 5: Diwygio Gwasanaethau Cyhoeddus a Gweithio Rhanbarthol gyda chyfanswm o £981,655. Bydd y prosiect yn gweithio i sefydlu cydweithrediad rhanbarthol strategol newydd. Gweithio ar draws ffiniau llywodraeth leol a gweinyddol traddodiadol, i gyflawni’r uchelgais ar y cyd a nodir yn y prosbectws a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru trwy’r Tasglu ar gyfer Cymoedd De Cymru i greu Parc Rhanbarthol y Cymoedd (PRC).