Parc Rhanbarthol y Cymoedd ydyn ni — rydyn ni’n frwd dros lesiant, diwylliant, yr amgylchedd a’r gymuned yng Nghymoedd y De.
Partneriaeth o sefydliadau Cymreig yw Parc Rhanbarthol y Cymoedd, gan gynnwys cynghorau ac elusennau, sy’n gweithio gyda byd natur i helpu Cymoedd De Cymru i ffynnu — yn amgylcheddol, yn gymdeithasol ac yn economaidd.
Mae ôl troed PRhC yn ymestyn o Sir Gaerfyrddin i Flaenafon, sy’n ffinio â Bannau Brycheiniog — ac mae ganddo rwydwaith o ucheldiroedd, coetiroedd, gwarchodfeydd natur, parciau gwledig, afonydd, cronfeydd dŵr, camlesi, safleoedd treftadaeth ac atyniadau — pob un wedi’i blethu â’r trefi a’r pentrefi sy’n gartref i tua miliwn o bobl.
Gyda rhwydwaith o atyniadau lleol, safleoedd, a sefydliadau fel Pyrth Darganfod PRhC, ein cenhadaeth yw gwella ansawdd bywyd, rhagolygon economaidd, iechyd a lles yng Nghymoedd De Cymru. Cyflawnir hyn trwy gysylltu pobl â mannau gwyrdd cynyddol y rhanbarth — a thrwy hynny fynd i’r afael â’r argyfwng natur a’r hinsawdd wrth hyrwyddo ffyrdd gweithredol o fyw.
Drwy gysylltu pobl â mentrau awyr agored, gweithgareddau a phrosiectau cymunedol, gallwn greu cyfleoedd hamdden a dysgu seiliedig ar sgiliau ledled y Cymoedd — gan ddenu mewnfuddsoddiad a’i wneud yn lle deniadol i weithio, byw ac ymweld ag ef.
Dyma ein Pyrth Darganfod. O barciau gwledig a safleoedd treftadaeth i warchodfeydd natur, mae’r lleoedd arbennig hyn yn cynnig profiadau cofiadwy ac ysbrydoledig i bawb, waeth beth fo’ch oed a’ch diddordeb.
Ydych chi’n deulu sy’n chwilio am hwyl? Neu ydych chi am fentro allan i’r awyr agored yn amlach? Ydych chi’n teimlo’n heini’n barod ac yn chwilio am eich gweithgaredd awyr agored nesaf? Efallai yr hoffech chi wneud ffrindiau newydd? Hoffech chi wella’ch symudedd? Neu a fyddai helpu i warchod a diogelu bywyd gwyllt ac amgylchedd naturiol y Cymoedd yn apelio i chi?
Mae’r cyfleoedd mor amrywiol â’r dirwedd newidiol. Edrychwch ar ein gwefan i weld sut y gallwn eich helpu chi – a sut y gallwch chi helpu’r Cymoedd i barhau i ffynnu yn gyfnewid.
Beth rydym yn ei wneud
Nid un gymuned yn unig mo’n Cymoedd, ond llawer o gymunedau sydd â safbwyntiau gwahanol a dyheadau amrywiol. Rydym yn bartneriaeth, sy’n golygu ein bod yn annog pawb i gydweithio â’i gilydd er mwyn gwireddu’r nodau canlynol ar draws ein Cymoedd.
Rydym yn ysbrydoli newidiadau er gwell i’r modd rydym yn gofalu am dirwedd ein Cymoedd.
Rydym yn cysylltu pobl ag ystod eang o weithgareddau awyr agored er mwyn hybu eu hiechyd a’u lles.
Rydym yn cynorthwyo cymunedau i archwilio syniadau a mentrau newydd.
Gyda phwy y gweithiwn
Cawn ein llywodraethu gan fwrdd sy’n cynnwys arweinwyr 13 o awdurdodau lleol:
Mentrau cymunedol | Elusennau | Sefydliadau’r Llywodraeth | Sefydliadau iechyd | Cymunedau lleol | Grwpiau gwirfoddol