Gall pob un ohonom gymryd rhan
Mae rhai o olygfeydd mwyaf trawiadol Cymru a’r DU i’w gweld ym Mharc Rhanbarthol y Cymoedd. Mae llethrau llwm ac anial ein gorffennol diwydiannol yn wyrdd unwaith eto ar ôl i gyfoeth naturiol gael ei adfer iddynt. Mewn gwirionedd, maent mor hardd erbyn hyn fel ei bod yn anodd amgyffred yr heriau y bu’n rhaid i’r amgylchedd eu goddef. Ond mae llawer mwy o waith i’w wneud.
Mae gwirfoddoli’n cynnig cyfleoedd ardderchog i gyflawni hynny. Mae angen pobl o bob oed a gallu, a fydd yn cael cymaint o fudd o wirfoddoli!
Gallech gadw’r safleoedd sydd ym Mharc Rhanbarthol y Cymoedd yn daclus drwy helpu gyda gwaith garddio neu gynnal a chadw; efallai yr hoffech warchod ei gynefin naturiol bregus drwy wirfoddoli yn un o’n parciau gwledig neu’n gwarchodfeydd natur; neu efallai y byddai’n well gennych ofalu am gwsmeriaid mewn oriel neu amgueddfa neu ddarparu lluniaeth yn un o’r caffis neu’r canolfannau ymwelwyr.
Mae manteision gwirfoddoli’n amrywiol iawn. Mae’n fodd i gwrdd â phobl newydd, gwneud ffrindiau newydd a rhyngweithio gymaint ag a fynnwch â phobl eraill. Byddwch hefyd yn dysgu sgiliau newydd wrth i’r Canolfannau Darganfod roi i chi’r holl hyfforddiant y bydd arnoch ei angen, a byddwch yn gallu mwynhau’r bodlonrwydd a ddaw o wybod eich bod yn cyfrannu at sicrhau ffyniant y parc a chymunedau lleol.
P’un a ydych yn chwilio am reswm i fynd allan o’r tŷ, bod angen i chi wella eich CV, eich bod yn awyddus i warchod ein hamgylchedd neu’ch bod, yn syml iawn, am gael mwy o hwyl – gwirfoddoli ym Mharc Rhanbarthol y Cymoedd, heb os, yw’r ateb.
I gael gwybod am y cyfleoedd sydd ar gael yn ein Cymoedd i wirfoddoli, ewch i dudalen oriel y Canolfannau Darganfod a chysylltwch â’r safle sy’n apelio fwyaf atoch.