Gwerthfawrogi ein cymoedd er budd cenedlaethau’r dyfodol
Rydym yn ffodus ein bod wedi ein hamgylchynu gan gefn gwlad mor ysblennydd, a’n cyfrifoldeb ni i gyd yw sicrhau bod pethau’n aros fel hyn!
Fe allwn ni, fel trigolion cymunedau’r Cymoedd, sicrhau bod y Cymoedd yno i genedlaethau’r dyfodol drwy addysgu ein plant a’n pobl ifanc am hanes yr ardal a phwysigrwydd amddiffyn ein hamgylchedd naturiol. Mae cael plant i ddysgu ar y cyd fel hyn pan fyddant yn ifanc yn hollbwysig. Drwy hyn, fe allan nhw fod yn falch o’n Cymoedd a theimlo’n angerddol am eu diogelu nhw wrth iddyn nhw dyfu’n hŷn.
Fe ddewch chi o hyd i gyfres o adnoddau ar y dudalen hon y gallwch eu lawrlwytho a’u defnyddio yn y cartref, yn yr ysgol neu o fewn ac o gwmpas Parc Rhanbarthol y Cymoedd. Eu diben yw addysgu plant wrth iddyn nhw ddysgu am bwysigrwydd gofalu am y Cymoedd a’u diogelu i’r dyfodol (yn ogystal â’r holl bobl a’r llefydd ynddynt).
Dyma rai o’r pynciau y byddwn yn eu trafod:
- y bywyd gwyllt a’r cynefinoedd naturiol yn y rhanbarth;
- hanes a chwedlau’r rhanbarth; a
- diwylliant a chymunedau’r rhanbarth.
Bydd rhagor o adnoddau’n cael eu hychwanegu, felly dewch yn ôl yma o bryd i’w gilydd i weld pa adnoddau newydd fydd ar gael!
Gallwch hefyd gofrestru i wybod am gyfleoedd i gael hwyl ac i ddarganfod mwy am fyd natur a’r bywyd gwyllt lle rydych chi’n byw!
- Gallwch ddysgu am fyd natur drwy weithgareddau byw yn y gwyllt i deuluoedd ac i’ch helpu i ddysgu eich plant gartref
- Meithrin natur drwy brosiectau tyfu cymunedol
- Teimlo’n dda drwy gadw’n heini yn yr awyr agored
- Amddiffyn yr amgylchedd drwy waith cadwraeth uniongyrchol
Taflenni Gweithgaredd Parc Rhanbarthol y Cymoedd
Ymunwch â ni heddiw!
Cewch ddysgu mwy am raglen weithgareddau Teulu Gwarcheidwaid Parc Rhanbarthol y Cymoedd drwy fynd i dudalen gwe Gwarcheidwaid y Parc yma. I drefnu ymweliad i grŵp ysgol, ewch ati i chwilota drwy’r Pyrth Darganfod i ddod o hyd i fanylion cyswllt y parc gwledig neu’r warchodfa natur yr hoffech ymweld â hi.