Mae Parc Ynysangharad a’r Lido Cenedlaethol yn atyniad hanesyddol i’r teulu, ac mae’n gartref i brif bwll awyr agored Cymru a pharc chwarae antur ac iddo nodweddion diwydiannol – yr unig un o’i fath yng Nghymru.
Mae’r lido rhestredig Gradd II wedi’i adfer a’i ddiweddaru fel ei fod yn addas i ymwelwyr heddiw. Mae ganddo gawodydd y tu allan a’r tu mewn, cyfleusterau newid wedi’u gwresogi a thri phwll nofio wedi’u gwresogi, ar gyfer teuluoedd, nofwyr selog a nofwyr cymdeithasol o bob oed a gallu.
Mae Lido Ponty yn cynnwys Canolfan Ymwelwyr heb ei hail sy’n adrodd stori ryfeddol Lido Cenedlaethol Cymru. Ymhlith y nodweddion sydd wedi’u hadfer y mae’r ciwbiclau pren a’r giatiau tro o’r 1920au sy’n cyd-fynd â’r caffi newydd, sef The Waterside.
Mae Llwybr Taf yn mynd drwy’r parc sydd ar lan yr afon ac sy’n gartref i gyfleusterau bowlio, tennis a chriced yn ogystal â gweithgareddau megis golff troed a sesiynau rhedeg. Mae’r ardal chwarae antur yn lle sy’n dal dychymyg ein hymwelwyr iau wrth iddynt archwilio’r siglenni, y sleidiau a’r twnelau sy’n dathlu ein gorffennol diwydiannol balch.
Allwch chi ddim gadael y Parc heb alw heibio i’n Canolfan Ymwelwyr lle gwelwch chi fyrddau gwybodaeth am dreftadaeth, posau a gemau rhyngweithiol a sgriniau fideo mawr ymhlith llawer o bethau eraill.
Welwn ni chi yno!
Beth sydd ar gael yn Parc Ynysangharad a’r Lido Cenedlaethol